Cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru

Yn ddiweddar rhoddodd Hufenfa De Arfon £349 i Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl codi arian fel rhan o’u dathliadau Penblwydd yn 75 a raffl Nadolig staff.

“I ddathlu ein 75ain Penblwydd cynhaliwyd diwrnod i aelodau a staff a trefnwyd raffl elusennol. Hefyd rydym wedi cyfuno hynny gyda’r arian a godwyd yn raffl Nadolig y staff” dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon. “Y staff ddewisodd cefnogi’r Ambiwlans Awyr oherwydd ei fod yn cael ei ariannu gan gyfraniadau elusennol yn unig. Mae’r gwasanaeth yma yn hanfodol mewn cymuned wledig fel hon.”

“Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a gefnogodd yr achos ac i’r rhai a gyfrannodd wobrau raffl yn arbennig Saica, CRH Hansens, Sayers Tankers, Volvo a’r Bwtri.”

www.walesairambulance.com