Anrheg Dydd Gwyl Dewi
Mae anrheg Dydd Gŵyl Dewi, pecyn gofal llawn nwyddau, wedi cael ei anfon i’n ffermwyr i gyd
Mae anrheg Dydd Gŵyl Dewi, pecyn gofal llawn nwyddau, wedi cael ei anfon i’n ffermwyr i gyd i ddiolch iddynt am eu gwaith caled ac am barhau i fwydo’r genedl drwy gydol argyfwng y pandemig.
Roedd pob un pecyn yn cynnwys het gweu, potel diheintydd dwylo, mwgwd, mwg ar droed, ambarél, caws penigamp Dragon, arwydd i’w roi ar lwybrau i atgoffa cerddwyr i ddiolch i’w ffermwyr lleol am eu gwaith, amrywiaeth o ryseitiau blasus a cherdyn post gyda neges o ddiolchgarwch.
Roedd Rheolwyr Hufenfa De Arfon eisiau talu teyrnged arbennig i gydnabod rôl hanfodol y gymuned ffermio ac ymrwymiad ein ffermwyr. Maent wedi parhau i gynhyrchu llaeth yn ddi-dor er gwaethaf yr heriau digynsail dros y 12 mis diwethaf a dylai Cymru fod yn falch ohonynt.
Dywedodd Megi Williams, Cydlynydd Gwerthiant a Marchnata ei bod hi a’r tîm yn falch iawn eu bod wedi gallu anfon anrheg o ddiolchgarwch i’r ffermwyr sydd wedi gweithio’n daer i gadw llinellau cynhyrchu Hufenfa De Arfon wrth waith.
Dywedodd Megi: “Dydd Gŵyl Dewi yw un o’r dyddiadau pwysicaf i’w ddathlu yng nghalendr Cymru ac rydym bob amser yn ceisio nodi’r diwrnod gyda digwyddiad arbennig. Eleni, ar ôl ystyried yr amgylchiadau heriol ac anodd mae ein ffermwyr dyfal wedi eu hwynebu, roeddem eisiau gwneud rhywbeth agos i gartref. Doedd dim dwywaith y dylai diolch arbennig fynd i’n ffermwyr sydd wedi gweithio’n ddiflino i gynnal llif y llaeth i’r hufenfa ddal ati i gynhyrchu. Dyma ein gweithwyr allweddol heb os, pobl sydd wedi mynd tu hwnt i edrych ar ôl eu da byw a lles eu cwsmeriaid. Mae ein ffermwyr wedi sicrhau bod y wlad yn cael ei bwydo a hwy yw calon pob dim a wneir yma yn Hufenfa De Arfon a dyna pam ein bod eisiau anfon pecyn diolch syrpreis i bob un ohonynt.”
Mae Hufenfa De Arfon yn falch iawn o’i ffermwyr sydd eto wedi arddangos ymroddiad tu hwnt ac wedi goroesi'r heriau o’u blaen. Dim ond arwydd o ddiolch bychan iawn yw’r pecyn anrheg, ond maent wedi dod o’r galon, a pha ddiwrnod gwell na dydd Gŵyl Dewi i nodi ein balchder.