Blas Cymru

Mynychodd Hufenfa De Arfon gynhadledd dau ddiwrnod Blas Cymru a gynhaliwyd yn y Celtic Manor 23ain-24ain Mawrth 2017 gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae cyrchfan y Celtic Manor yn lleoliad adnabyddus ers cynnal cwpan byd Ryder yno yn 2010.

Roedd hon yn gynhadledd ryngwladol ac yn rhoi sylw i bynciau allweddol o fewn y diwydiant ynghyd ag arddangos
amrywiaeth eang o gynhyrchion bwyd a diod Cymreig. Roedd tîm Blas Cymru wedi cysylltu â nifer o brynwyr o Brydain, a rhai rhyngwladol o sianeli bwyd amrywiol – archfarchnadoedd, gwasanaeth bwyd a chyfanwerthu ac wedi trefnu sesiynau cyflwyno gyda’r cyflenwyr.

Yn ychwanegol i hyn roedd nifer o ystafelloedd arddangos i’r cwsmer ymlwybro trwyddynt fel petaent yn siopa ac yna cysylltu gyda’r cyflenwyr fel dymunwyd.

Rhoddodd Blas Cymru lwyfan da i bawb ddod ynghyd gyda prynwyr a chyfle i ddarganfod beth oedd yn newydd yn y diwydiant. Roedd yn ddefnyddiol iawn ac yn fforwm effeithiol i rwydweithio.