RYSEITIAU CAWS BLASUS
Oes gennych chi gaws dros ben ers y Nadolig? Beth am wneud y ryseitiau blasus yma.
Potiau Cheddar a Phort
300g cheddar aeddfed wedi ei gwibio neu gratio
75g menyn
50ml port
10ml brandi
1/4 llwy de o theim sych
Pinsiad o bupur coch
pinch nytmeg
- Defnyddiwch brosesydd bwyd i dorri’r caws, menyn, perlysiau a sbeisys
- Ychwanegwch y port a’r brandi a’i brosesu tan mae’n gymysg llyfn
- Rhowch mewn powlenni bach a’i oeri am o leiaf 2-3 awr.
- Bendigedig ar gracers fel snac neu gwrs cyntaf i bryd bwyd, i’r dim wedi toddi ar ben twrci mewn panini efo saws llugaeron.
- Cadwch yn yr oergell a’i ddefnyddio o fewn yr wythnos.
Bisgedi Cheddar a Phupur Du
150g blawd plaen
¼ llwy de o bowdwr mwstard
Pinsiad o halen môr
100g menyn oer wedi ei giwbio
150g cheddar aeddfed wedi ei gratio yn fras
2 llwy de o bupur du wedi malu’n fras
1 melynwy
1-2 hambwrdd pobi wedi ei iro
Cynheswch y popty i 190ºC/Nwy5.
- Hidlwch y blawd, powdwr mwstard a halen i bowlen. Torrwch y menyn a’i rwbio gyda’i gilydd gyda blaen eich bysedd, fel tasech yn gwneud crwst. Ychwanegwch y cheddar a phupur a rhwbio’n drylwyr.
- Curwch y melynwy gyda 2 llond llwy fwrdd o ddŵr ac ychwanegwch ond digon i wneud y blawd ddod ynghyd i does. (gellir gwneud cam 1 a 2 mewn prosesydd bwyd)
- Siapiwch i ddisg fflat a’i rhoi mewn clingfilm a’i roi yn yr oergell am 30 munud. Tynnwch o’r oergell a’i adael tan ddaw i dymhered yr ystafell.
- Rholiwch y does yn denau, yna torrwch yn stribedi o oddeutu 30cm. Rhowch y stribedi ar hambyrddau pobi a’u pobi mewn popty wedi rhagboethi am 12-15 munud tan yn euraid.
- Gadewch ar yr hambwrdd am 10 munud ac yn eu rhoi ar weiren i oeri yn iawn.Cadwch mewn tin aerdyn