Cynnyrch Newydd Dragon yn Tesco

Mae triawd o gawsiau arbennig a gynhyrchir gan Hufenfa De Arfon erbyn hyn ar y silffoedd yn storfeydd Tesco trwy’r wlad.

Mae Tesco wedi arwyddo dêl ecsgliwsif gyda Hufenfa De Arfon i stocio ein cynnyrch crefft llaw Dragon newydd yn eu storfeydd mwyaf ar draws Cymru. Mae’r amrywiaeth yn cynnwys Cheddar wedi cochi gyda Gwiniolen ac yn uned cochi adnabyddus Halen Môn ym Môn, yn eu storfeydd yng Nghymru.

Yno hefyd mae’r Cheddar sydd wedi ei Aeddfedu mewn Ceudwll. Fe’i aeddfedir 500 troedfedd o dan ddaear yng ngheudyllau llechi Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog, dull traddodiadol a ddefnyddir yn Ffrainc ers canrifoedd i feithrin blas dwfn.

I orffen y triawd i Tesco mae Cheddar Dragon gyda Wisgi Penderyn. Gwneir hwn drwy fwydo'r Cheddar o’r Ceudwll mewn wisgi Madeira gan gwmni enwog Penderyn.

Mae’r triawd yma wedi rhoi hwb sylweddol i HDA sydd wedi bod yn cyflenwi Tesco am dros ugain mlynedd ac mae’r cynhyrchion diweddaraf yma yn adeiladu ar y cynhyrchion a werthir yn barod yn storfeydd Tesco yng Nghymru.

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Alan Wyn Jones: “Rydym yn hapus iawn bod Tesco yn rhoi ein cawsiau Dragon crefft llaw yn ei storfeydd ar draws Cymru. Mae’r cynhyrchion crefft llaw yn rhywbeth rydym wedi bod yn gweithio arno ers peth amser. Rydym wedi defnyddio cynhwysion Cymreig o safon uchel sy’n llawn hanes i greu cawsiau premiwm y gallwn ni fod yn wir falch ohonynt. Mi wnaethom weithio’n agos gydag arbenigwyr Halen Môn, Ceudyllau Llechi Llechwedd a wisgi Penderyn i ddatblygu’r blasau unigryw yma. Mae’r canlyniadau yn dystiolaeth o safon y cynnyrch gan ein ffermwyr a sgil ein gwneuthurwyr caws ac rwy’n siŵr y byddent yn atodyn moethus i unrhyw fwrdd caws.”

Dywedodd Rheolwr Pryniant Tesco yng Nghymru, Matt Downes ei fod yn hapus iawn i roi'r tri cynnyrch newydd yma ar silffoedd Tesco. “Gwyddom fod ein cwsmeriaid yng Nghymru yn naturiol yn falch iawn o’u cynnyrch lleol penigamp a wneir yma yng Nghymru”. Dywedodd “rydym yn chwilio am gynhyrchion o safon y bydd ein cwsmeriaid eisiau eu prynu trwy’r amser, ac rydym yn gweithio’n glos gyda’n cyflenwyr bwyd a diod hir dymor i weld pa gynhyrchion newydd diddorol maent yn eu datblygu.”

Mae’r arloesi tu cefn i’r cynhyrchion newydd yma yn bosib, diolch i fuddsoddiad HDA mewn tîm datblygu cynnyrch newydd a marchnata ymroddgar sy’n ymchwilio’r archfarchnad ac yn arbrofi’n barhaus gyda syniadau newydd.

Gwyddom fod ein cwsmeriaid yng Nghymru yn naturiol yn falch iawn o’u cynnyrch lleol penigamp a wneir yma yng Nghymru - Matt Downes Tesco