Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru

Dyma eiriau caredig EUB Tywysog Cymru wrth agor ffatri cynhyrchu caws newydd Hufenfa De Arfon yn swyddogol.

“Mae fy ngwraig a minnau mor falch o gael y cyfle yma i ymuno â chi ar achlysur sy’n eithaf pwysig i agor yr hufenfa newydd yma. Ar ôl bwyta ein ffordd o gylch rhan yma o Gymru yn ystod y bore, gan ddechrau efo tamed o gimwch wedi ei ffrio a chacennau cri blasus, tamed o cheddar oedd yr union beth oedd ei angen.

Felly, os caf ddweud, rwyf wrth fy modd gweld sut mae’r gydweithfa yma wedi datblygu ymlaen ers 1938. Mae’n brawf o weledigaeth pobl i’r dyfodol yr amser hynny a sut mae cwmni cydweithredol o ffermwyr llaeth wedi glynu gyda’i gilydd dros y blynyddoedd. Fel sydd newydd gael ei ddweud, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn sicrhau bod strwythurau ffermydd teuluol yn parhau yn y wlad yma, ar wahân i bob dim arall credaf ei fod yn hanfodol ar gyfer diogelwch bwyd. Mae cynifer ohonoch chi sydd yma heddiw yn dod o deuluoedd sydd gyda chysylltiad â
ffermio, yn arbennig ffermio llaeth, ers cenhedloedd. Gwn hefyd maint y sialensiau yr ydych yn eu hwynebu bob dydd, a pha mor anodd ydynt – pris llaeth a’r cymlethdodau eraill i gyd. Ond
gobeithiwn fod y fenter hon yn ychwanegu gwerth i’ch cynhyrchion chi, eich cynnyrch craidd, caws a menyn, ac y bydd yn gwneud gwahaniaeth i’ch gweithgareddau ymlaen.

Felly, does dim yn rhoi mwy o bleser i mi nag i agor yr hufenfa newydd, yr ydw i o leiaf wedi cael cyfle i’w gweld, a hoffwn ddefnyddio’r cyfle i longyfarch pawb sydd wedi gwneud cymaint i’w adeiladu, ac yn arbennig, os caf ddweud, y plymwyr anhygoel sydd wedi gwneud iddo weithio.

Gobeithiaf y cewch chi nifer yn rhagor o flynyddoedd o weithredu’n llwyddiannus, yn arbennig gyda gwerthu llawer iawn o gaws i Sainsbury’s am amser hir i ddod.

Foneddigion a boneddigesau does dim yn rhoi mwy o bleser i mi nag i ddadorchuddio’r lechen ac agor yr Hufenfa.”