Llwyddiant Gwobrau Caws Prydain

Mae Hufenfa De Arfon yn wneuthurwr caws llwyddiannus ac wedi ennill rhai o’r prif wobrau yng nghystadleuaeth Gwobrau Caws Prydain nodedig. Fe’i cynhelir yn flynyddol fis Mai yn Sioe Cae’r Faddon ac mae’n denu dros 1000 o gystadleuwyr. Felly mae ennill gwobr mewn gornest galed fel hon yn gadarnhad safon arbennig ein cynnyrch. Mae’r caws yn anhysbys i’r beirniaid pan maent yn ei flasu. Enillodd ein cawsiau Cymraeg wobrau yn yr adrannau cheddar. Cafodd y caws Mwyn yr efydd, enillodd y caws Aeddfed Cymreig yn Arian tra bo’r Cheddar Cymreig o’r Ceudwll Llechen poblogaidd yn dod adra gyda thair gwobr, dau aur ac un arian.

Mae gwobrau o’r math yma yn bwysig iawn i’r Hufenfa gan ei bod yn cynnig meincnod annibynnol o safon ein cynnyrch.

Cofiwch gadw golwg ar ein tudalennau newyddion i weld be arall fyddwn yn ennill eleni.

www.bathandwest.com

www.thecheeseweb.com/british-cheese-awards