Ambiwlans Awyr Cymru
Dewisodd raffl flynyddol Nadolig 2016 Hufenfa De Arfon gasglu arian at Ambiwlans Awyr Cymru. Mae’r Ambiwlans Awyr yn llwyr ddibynnol ar gyfraniadau gan y cyhoedd ac nid yw’n derbyn unrhyw nawdd gan y Loteri Genedlaethol na’r Llywodraeth. Gall gyrraedd unrhyw fangre yng Nghymru o fewn ugain munud ac mae pob un ymgyrch yn costio oddeutu £1,500.00. Mae’r gwasanaeth yma’n uchel ei barch ac mae mawr ei angen yng nghefn gwlad Cymru ac mae’r gefnogaeth a gafwyd gan staff ond yn profi hynny ymhellach.
Mae cryn ddiddordeb yn y raffl bob amser, ac ni chafwyd siom eleni gan i ni ragori ar bob gobaith gan chwalu’r record. Mae’n wych gallu dweud wrthych ein bod wedi casglu cyfanswm o £800 tuag at Ambiwlans Awyr Cymru. Diolchir i staff am eu cefnogaeth ac am eu help i godi cymaint o arian ac hefyd i garedigrwydd y rhai a gyfrannodd wobrau raffl: Alpma, CCL, Gwesty Lion Criccieth, Stainless Steel Pipe Solutions, PFM, Snowdonia Fire, Gas and Leisure, QJS, Treif a Reiser.