Byrger Barbeciw Cheddar Cymreig
Dyma rysait byrger cig blasus efo Cheddar Cymreig Aeddfed Dragon wedi ymdoddi mewn cymysg briwgig porc (neu gig eidion). Coginiwch ar y barbeciw, neu os ydi’r tywydd yn anwadal griliwch ym mhopty’r ty!
Cynhwysion:
400g briwgig porc (neu gig eidion)
140g briwsion bara gwyn ffres
80g cheddar Dragon aeddfed wedi gratio
1 nionyn coch maint canolig wedi ei dorri’n fân
1 clof garlleg wedi ei falu’n fân
1 llwy bwdin o ddail saets wedi torri’n fân neu 1/2 llond llwy de o saets sych
1 wy wedi ei guro
Pupur du a halen i flas
Dull:
1. Cyfunwch y cynhwysion i gyd oni bai am yr wy mewn powlen fawr a sicrhewch ei fod wedi ei gymysgu’n dda.
2. Ychwanegwch yr wy ac yn siapiwch i 4 byrger (gwnewch 4 pelen ac yna eu gwasgu i siâp byrger)
3. Rhowch yn yr oergell am awr
4. Gellir rhoi’r byrgers ar y barbeciw neu eu grilio – o leiaf 5 munud pob ochr
5. Gweinwch mewn rhôl fara salad a siytni