Cwmni ffermwyr cydweithredol Cymreig yn dathlu llwyddiant ehangu

Prif gwmni llaeth cydweithredol Cymru yn cwblhau prosiectau ehangu sylweddol gwerth £25m

Am y deunaw mis diwethaf, mae Hufenfa De Arfon, cwmni cydweithredol ffermwyr llaeth hynaf Cymru, wedi bod yn buddsoddi’n helaeth i ddatblygu ei safle yn Rhydygwystl, ger Pwllheli, er mwyn cynyddu ei allu i gynhyrchu a phacio ymhellach.

Yn dathlu’r garreg filltir ddiweddaraf hon mae’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau newydd, James Knowlson. Ymunodd James â Hufenfa De Arfon fel ymgynghorydd ym mis Hydref 2023 i arwain Prosiect Evolve, buddsoddiad o £2 filiwn, gan lwyddo i ddarparu llinell ddosrannu gyflym newydd sbon. Yn ogystal, cwblhawyd nifer o welliannau allweddol a phrosiectau seilwaith y safle, gan alluogi'r safle i gynyddu maint cynhyrchu bwyd wedi’i bacio 50%.

Mae James yn ymuno â’r cwmni ar ôl cwblhau Prosiect Dragon, rhaglen fuddsoddi gwerth £25 miliwn a oedd yn cynnwys cyfleuster prosesu maidd newydd, llinellau cynhyrchu caws ychwanegol a chyfleuster glanhau newydd ynghyd â chynyddu ei wasanaethau cyfleustodau. Bydd James, ynghyd â’i dîm, yn gyfrifol am reoli gweithrediadau wrth i’r cwmni barhau â’i daith datblygu cynaliadwy dros y blynyddoedd nesaf.

Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon, “Rwy’n falch o allu ychwanegu person cystal â James i’r tîm wrth i ni ddechrau ar gyfnod twf nesaf ein menter gydweithredol. Bydd James yn canolbwyntio'n fawr ar gyfleoedd gwelliant parhaus o fewn ein gweithrediadau a’n gwaith ac yn datblygu'r tîm i gyflawni ein hamcanion. Mae James wedi bod gyda ni am 15 mis yn barod, ac rwy’n llawn cyffro i weithio gydag ef i gyflwyno diwylliant gweithredol newydd a fydd ond yn ychwanegu gwerth pellach at y busnes”.

Cyn sefydlu ei fusnes ei hun, bu James yn Rheolwr Gweithrediadau yn Ornua Foods UK yn Leek. Ac yntau wedi mwynhau gyrfa ryngwladol sy’n ymestyn dros 20 mlynedd, mae gan James dros ddegawd o brofiad mewn gweithgynhyrchu bwyd, yn bennaf yn y sector llaeth. Dywedodd James, “Rydw i wrth fy modd yn ymuno â Hufenfa De Arfon. Mae'n fusnes gwych, gyda phobl wych.

“Mae’r buddsoddiadau strategol diweddar bellach wedi rhoi cyfleuster gwych i ni a sylfaen gadarn i adeiladu llwyddiant cynaliadwy yn y dyfodol arni ar gyfer ein haelodau sy’n ffermwyr a’r tîm ehangach yma yn Hufenfa De Arfon.

“Gan ddefnyddio offer torri a phacio blaengar, bydd ein llinell ddosrannu newydd yn chwyldroi cynhyrchiant, gan greu 5% yn fwy o gynnyrch a chynyddu effeithlonrwydd tua 30%, o’i gymharu â’r llinell flaenorol.

“Rydyn ni hefyd wedi cynnwys y dechnoleg stacio pecynnau diweddaraf ar ein llinell ddosrannu newydd, y tro cyntaf i hyn gael ei wneud ar ddognau wedi’u lapio â llif yn y diwydiant llaeth. Gyda'r arloesedd hwn, byddwn yn gallu cynnig mantais unigryw o ran effeithlonrwydd pecynnu ac ansawdd y cynnyrch.

“Yn ogystal, mae'r broses stacio newydd wedi lleihau'r risg o RSI trwy leihau nifer y dewisiadau â llaw o 45 i 15 y funud ar y mwyafrif o'n cynhyrchion.

“Mae'r datblygiad hwn nid yn unig yn gwella ein gallu gweithredol ond hefyd yn tanlinellu ein hymrwymiad i les ein gweithwyr ac ansawdd ein cynnyrch. Rydyn ni’n llawn cyffro am y dyfodol a’r cyfleoedd y bydd y datblygiadau newydd hyn yn eu cynnig i’n busnes a’n cymuned, ac rwy’n methu aros i arwain y Tîm Gweithrediadau i hyd yn oed mwy o lwyddiant yn y dyfodol wrth i ni barhau i gynhyrchu cynnyrch llaeth Cymreig o’r safon uchaf.”