Profiad Gwaith
Cyn gwyliau’r Pasg bu tri disgybl o’r ysgol uwchradd leol, Glan y Môr yn Hufenfa De Arfon am brofiad gwaith; Siôn Owen yn yr adran Peirianneg, Aaron Jones yn y swyddfa/TG a Kia Hughes yn y labordy. Roedd y tri yn awyddus i ddysgu a bu’n bleser eu cael yma ar safle.
Mae’r busnes bob amser yn ceisio cefnogi mentrau addysgol pan fo’n bosib. Mae cael y profiad o fywyd gwaith ‘go iawn’ yn helpu disgyblion i gynllunio eu dyfodol a dewis gyrfa o ddiddordeb iddynt hwy.
Roedd Siôn yn gweld yr amser a dreuliodd yn yr adran beirianneg yn ddefnyddiol a dywedodd “dwi isho bod yn drydanwr a roedd yn dda gallu gweld sut oedd adran peirianneg yn gweithio. Mi welais offer yn cael ei drwshio a’r gwaith papur oedd angen ei wneud. Hoffwn ddiolch i bawb am eu croeso. Mi wnes i fwynhau yn fawr”.
Roedd Aaron hefyd yn gweld y profiad yn werthfawr a dywedodd, “roedd yn ddiddorol gweld y cynhyrchu caws a’r ffatri newydd yn cael ei pharatoi. Diolch am y cyfle”. Bu Kia yn brysur yn gwneud profion llaeth, pwyso cemegau a swabio a dywedodd ei bod “wedi dysgu bod glendid a safon yn bwysig iawn mewn ffatri sy’n gwneud bwyd”.