Caws a Menyn
Caws
Rydym ni yma yn Hufenfa De Arfon yn cynhyrchu amrywiaeth eang o Gawsiau Cymreig premiwm. Mae ein cynhyrchion i gyd yn cael eu cynhyrchu a'u pacio yng Nghymru gan ddefnyddio llaeth Cymreig.
Mae gennym ddewis gwych o gawsiau i gwsmeriaid, amrywiaeth eang o flasau a ffurfiau pacio cynhwysfawr wedi eu dylunio i weddu i anghenion yr archfarchnadoedd, cyfanwerthwyr, gwasanaethau bwyd, proseswyr bwyd a'r farchnad allforio.
Parheir i wneud caws gan ddefnyddio’r dulliau cynhyrchu traddodiadol yn Hufenfa De Arfon. Parheir i halltu drwy law ar fyrddau agored ac mae hynny yn caniatáu’r hyblygrwydd i ni wneud amrywiaeth o gawsiau na fyddai’n bosib pe defnyddid offer awtomatig fel y gwneir mewn nifer o hufenfeydd modern a welir ar draws y byd.
Mae ein Safonwyr Caws hynod brofiadol ar safle yn monitro a safoni ein caws drwy gydol yr amser er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu potensial ac yn datblygu ansawdd a blas nodedig yr Hufenfa.
Amrywiaeth Caws
Mae ein caws cheddar blasus Cymreig yn amrywio o'r cheddar mwyn hufennog i'r cheddar aeddfed a'r cheddar clasurol sawrus a chyfoethog. Rydym yn adnabyddus am ein cheddar Cymreig o'r Ceudwll a aeddfedir o dan ddaear yng Ngheudyllau Llechi Llechwedd er mwyn datblygu blas ac ansawdd unigryw a dwys.
Cawsiau hanner braster a llai braster i'r rhai sy'n ofalus am eu hiechyd a'r Monterey Jack sy'n berffaith ar gyfer coginio.
Gwneir y Caerffili i rysáit traddodiadol i wneud caws arbennig sy'n gweddu gyda hanes ein hardal.
Mae'r cheddar clasurol gyda chennin bob amser yn ffefryn mewn sioeau, ynghyd â'r caws wedi cochi.
Ceir pecynnau o sawl maint: 180g, 200g, 350g, 550g, 900g a 1.25kg ar gyfer y cownteri deli.
Mae ffurfiau ar gael ar gyfer proseswyr bwyd mewn blociau 20kg, 5kg a 2.5kg. Cawsiau wedi gratio ar gael mewn bagiau 5kg a 1kg.
Menyn
Yn draddodiadol fel halltir menyn a dywed hanes bod economi Cymru wedi ei wreiddio ar fwyngloddio ac amaeth. Defnyddiwyd bwydydd hallt yn y diet er mwyn disodli maeth a gollwyd yn ystod gwaith llafur trwm.
Mae safon ragorol ein hufen Cymreig yn rhoi menyn traddodiadol a blasus sy'n cael eu cynhyrchu a'i bacio yng Nghymru.
Caiff y menyn hallt Cymreig ei bacio mewn pecynnau 250g traddodiadol ac mae ar gael mewn blociau 10kg i broseswyr.
