Sut i Wneud Caws
Sut ydych yn dechrau gyda llaeth a gorffen gyda chaws tybed?
Diolch i safon rhagorol y llaeth sy'n cael ei gyflenwi i ni gan ein ffermwyr aelodau gallwn wneud cynnyrch caws a menyn arbennig. Mae ein gwartheg yn pori ar borfa glas a ffrwythlon a chyda hinsawdd mwyn llif y gwlff maent yn treulio'r rhan fwyaf o'r amser tu allan.
O’r Fuwch i’r Hufenfa
Cesglir llaeth gan ein ffermwyr aelodau saith niwrnod yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn gan ein fflyd tanceri.
Unwaith mae'n cyrraedd yr hufenfa mae pob proses ar ein safle yn rhoi rheolaeth lwyr i ni o fewn y gadwyn fwyd, o'r llaeth i'r cynnyrch ar y silff.
Wrth wneud caws cynhyrchir ôl-gynnyrch, maidd. Cesglir y maidd droi i borthiant anifeiliaid felly defnyddir pob dafn o'r llaeth.
Mae ein cawsiau i gyd yn cael ei aeddfedu'n ofalus o dan lygaid ein safonwyr caws arbenigol.