Yr Aelodau

Byddwch yn rhan o deulu Hufenfa De Arfon. Mae ein Cwmni teuluol, sy’n ffermwyr ac aelodau sy’n cynhyrchu llaeth i ni gyda chyfranddaliad yn y Cwmni hefyd. Ein ffermwyr ac aelodau yw calon popeth a wneir yma. Rydym yn ymroddedig i gynnig telerau cynaliadwy a chystadleuol i ffermwyr, ac i ganolbwyntio ar bwyso am werthiant, cyflenwad a phroffidioldeb.

Rydym yn:

  • Dryloyw o ran popeth a wnawn
  • Sensitif i gost er mwyn cefnogi proffidioldeb i’r Hufenfa; budd uniongyrchol i’r ffermwyr sy’n aelodau
  • Adolygu cynnyrch, lliflinio lle bo angen neu yn canolbwyntio ar ddatblygu cynnyrch newydd i annog gwerthiant.
  • Monitro patrymau’r farchnad yn barhaus ac yn esblygu i gyflawni anghenion y diwydiant a gofynion cwsmeriaid.
  • Canolbwyntio ar gyfathrebu: dosbarthir gwybodaeth yn gyson i aelodau boed hynny trwy gylchlythyrau neu’r cyfarfodydd ffermwyr rheolaidd. Cynhelir y Cyfarfod Blynyddol fel arfer fis Gorffennaf sydd yn gyfle i aelodau i gyd ddod ynghyd i glywed sut mae’r Hufenfa wedi perfformio yn ystod y flwyddyn flaenorol ac i wrando ar siaradwr gwadd o’r diwydiant.

Safonau Ansawdd

Er mwyn cynnal ansawdd, asesir ein haelodau yn rheolaidd yn unol â gofynion y Cynllun Tractor Coch, a safonau ansawdd mewnol ein hunain.

Buddion ein Cytundeb Cyflenwi Llaeth

Credwn fod y rhaglenni tâl o fewn ein cytundeb Cyflenwi Llaeth yn wirioneddol adlewyrchu cost cynhyrchu ar adegau gwahanol o’r flwyddyn ac yn deg yn nhermau cyfansoddiad a chynhyrchiant. Mae’r adenillion a’r buddion yn pwyso o blaid cyfansoddiad ac ansawdd yn hytrach na thaliadau sefydlog i aelodau. Defnyddiwch ein cyfrifydd llaeth i gymharu.

Darllenwch fwy am ein haelodau:

Penmaen Isaf
Penmaen Isaf

Fferm deulu bach ger Machynlleth, canolbarth Cymru yw Penmaen Isaf. Mae'r fferm wedi bod yn y teulu ers 1960 ac erbyn heddiw Dafydd Besent a'i dad sydd yno, Mr Besent yn gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith godro tra bo Dafydd yn gofalu am waith arall y fferm. Buddsoddodd y teulu mewn parlwr godro yn 2015 gan ei adeiladu ei gyd eu hunain; maent yn godro ac yn aelodau yn HDA ers hynny. 70 o wartheg sydd yn y fuches ar hyn o bryd ac mae'r diwrnod gwaith yn dechrau o 5.30 y bore tan oddeutu 8 yr hwyr.

Ty Coch
Ty Coch

Fferm deuluol yn Llangynhafal ger Dinbych yw Tŷ Coch. Tad a mab, Emyr ag Iwan sy’n ffermio yno a chyda buches o 120 sy'n treulio y rhan fwyaf o’r flwyddyn yn pori ar laswellt ffres. Maent yn ffermio ers oddeutu 15 mlynedd ac yn aelodau yn HDA ers 10. Maent yn godro ddwywaith y dydd gyda'r godriad cyntaf am 6 y bore a'r ail am 3 y prynhawn; ychydig dros awr a gymerir i wneud y dasg a hwythau'n gallu godro 32 buwch ar yr un pryd. Dywed Iwan fod y gwartheg yn hoff o gerddoriaeth felly cedwir y radio ymlaen yn y parlwr i'w diddanu hwy...a'r sawl sy'n godro wrth gwrs. Nid ydynt yn hoff o waith carthu felly does ryfedd mae eu hoff swydd ar y fferm yw troi'r anifeiliaid allan.



Rhydorddwy Fawr
Rhydorddwy Fawr

Elwyn Thomas a'i feibion Gareth a Huw sy'n ffermio yn Rhydorddwy Fawr ger Rhyl. Mae'r fferm yn y teulu ers 1923 ac fe wnaethant ymuno â HDA ychydig flynyddoedd yn ôl! Ceir 160 o wartheg yn y fuches ar hyn o bryd ac mae'r diwrnod gwaith yn dechrau'n gynnar iawn am 4.45 y bore. Mae'r teulu cyfan wrth eu boddau'n ffermio a ni fedrent feddwl am unrhyw dasg sy'n codi'r felan arnynt. Mae lloeau yn rhoi pleser mawr i bob un ohonynt, yn arbennig helpu'r fuwch gyda'r enedigaeth a'u magu o hynny.

Ynysgain Fawr
Ynysgain Fawr

Fferm deulu sydd ond 5 milltir o'r Hufenfa yw Ynysgain Fawr. Mae'r fferm wedi bod yn y teulu ers 1943 ac maent wedi bod yn cyflenwi llaeth i'r Hufenfa ers y dechrau un. John a Sion sy'n rhedeg y fferm heddiw ac maent wedi buddsoddi'n ddiweddar mewn parlwr godro modern sydd wedi cwtogi'r amser godro o 5 awr! Mae ganddynt fuches o 120, 3 cenhedlaeth gyda'r mwyafrif yn pedigri, ac mae cynlluniau i gynyddu'r nifer a chyflenwad llaeth. Mae John wrth ei fodd yn bridio y gwartheg ac mae'n enwi pob un. Maent yn gwisgo coleri clyfar sy'n gadael i'r tîm wybod os oes unrhyw newid yn y fuwch ac mae hyn yn sicrhau eu bod yn cael y gofal gorau posib. Yn ogsytal, maent yn anelu i fod yn fferm economaidd ac fel rhan o'r nod hwn maent yn casglu dwr glaw i'w ddefnyddio i lanhau'r parlwr godro.

Graig Arthur
Graig Arthur

Mae fferm deuluol Graig Arthur, Trelanwyd ger y Rhyl yn 300 erw ac wedi bod yn cynhyrchu llaeth ers bron i gan mlynedd. Mae'r ffermdy yn dyddio yn ôl i 1776 ac yn un o'r tai brics cyntaf i'w adeiladu yn yr ardal.

Dywed y teulu bod y can mlynedd diwethaf wedi gweld llawer iawn o newid, ond maent wedi bod yn cyflenwi HDA ers dros ugain mlynedd bellach ac maent yn hoff iawn o'r ffaith bod HDA yn cynnig pris cyson, rhaglen pris syml ac yn gwneud cynhyrchion o safon uchel iawn.

Teulu Griffiths, Ffosygrafel
Teulu Griffiths, Ffosygrafel

Mae’r teulu wedi bod yn ffermio yn Ffosygrafel, Borth, Aberystwyth ers 1928. Heddiw, mae Martin mewn partneriaeth gyda’i rieni a’i frawd ac yn godro 90 buwch a chyda diadell defaid o 400. Gan fod y gwartheg yn lloeau trwy’r flwyddyn mae’r teulu Griffiths wedi mynd am y cynllun cynhyrchiant proffil gwastad ac wedi bod yn llwyddiannus wrth ddarogan eu cynhyrchiant llaeth. Yn dilyn buddsoddi’n sylweddol mewn adeilad i letya’r gwartheg a’r parlwr godro, y bwriad nawr yw cynyddu nifer y fuches o 50%. Dywedodd Martin “roedd cael hyder yn ein prynwr llaeth o help i ni wneud y penderfyniad i fuddsoddi mwy yn ein menter llaeth”.