Caws Wisgi Cymreig Newydd

Mae Hufenfa De Arfon wedi lansio caws newydd gyda wisgi Cymreig.

Mae’r caws newydd ar gyfer achlysuron arbennig yn cael ei aeddfedu yng ngheudyllau llechi Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog, cyn cael ei fwydo gyda wisgi adnabyddus Penderyn.

Datgelwyd y caws moethus yma yn Sioe Frenhinol Cymru’r wythnos hon ar y cyd â chyflwyniad ail-frandio cyffrous ein cawsiau Dragon poblogaidd.

Mae’r pecyn Dragon newydd yn llawer mwy lliwgar a siarp ac yn arddangos fersiwn mwy modern o’r logo Dragon Cymreig nodedig.

Y nod yw codi ymwybyddiaeth am safon arbennig a tharddiad ein caws Dragon a wneir i gyd gyda llaeth Cymreig o ffermydd ein haelodau. Gellir olrhain llwybr pob tamed caws yn ôl i’r fuwch.

Mae’r pecyn newydd yn cynnwys arwydd safon ar y cawsiau i gyd ac mae map yn dangos i’r cwsmer ym mha ardal mae’r caws wedi cael ei wneud yng Ngogledd Cymru.

Emma Knight yw Rheolwr Marchnata a brand Dragon HDA a dywedodd “mae ein cwsmeriaid yn gwerthfawrogi’n fawr fod y caws yn cael ei wneud yng Nghymru ac ein bod yn cefnogi’r gymuned ffermio.”