Tunnell o Gaws i'r Gymuned
Mae Hufenfa De Arfon wedi cyfrannu dros dunnell o’i chawsiau Cymreig, cyfwerth â £10,000 i fanciau bwyd a chynlluniau cymunedol ar draws Gwynedd a Môn.
Mae Hufenfa De Arfon wedi cyfrannu dros dunnell o’i chawsiau Cymreig, cyfwerth â £10,000 i fanciau bwyd a chynlluniau cymunedol ar draws Gwynedd a Môn. Bydd 5,000 o becynnau cheddar mwyn 220g wedi gratio yn cael eu dosbarthu i deuluoedd mwyaf anghenus.
Mae’r Cwmni yn casglu llaeth o ffermydd ei haelodau, 135 fferm ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru ac wedi parhau i gynhyrchu ei chawsiau a menyn Cymreig trwy gydol pandemig Covid-19 er mwyn bwydo’r genedl.
Mae strwythur y Cwmni’n unigryw gan mai'r ffermwyr yw perchnogion y gydweithfa ac un o’r prif dargedau yw sicrhau ein bod yn cyfrannu cymaint â phosibl i’r cymunedau lleol.
Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, “Rwy’n adnabod nifer o bobl sydd ynghlwm â rhedeg banciau bwyd lleol ac am y pwysau sydd arnynt yn y cyfnod anodd yma a gwnaeth hynny i mi feddwl sut y medrwn ni eu helpu. Mae hi’n amser heriol i bawb ond yn arbennig i’r rhai hynny’n sy’n brwydro i roi bwyd ar y bwrdd i’r teulu. Roedd y Cwmni yn teimlo y byddai darparu 5,000 pecyn o gaws Dragon wedi ei gratio yn gwneud gwahaniaeth gan ei fod yn gynhwysyn defnyddiol mewn nifer o brydau bwyd maethlon i’r teulu. Mae banciau bwyd yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy ar draws y wlad i gyd a diolchwn i’r gwirfoddolwyr hynny sy’n parhau i helpu'r rhai mwyaf anghenus.”
Rhannwyd y caws hefyd gyda gwasanaethau ‘pryd ar glyd’ yng Ngwynedd ac i’w roi mewn bocsys bwyd sy’n cael eu dosbarthu am ddim i bobl fregus ar draws Gwynedd a Môn trwy brosiect ‘Cynllun Neges’ sy’n cael ei redeg gan Fwyty Dylan’s a Menter Môn.
Mae Dylan Bullard, Cynghorydd Cyngor Gwynedd rhanbarth Gogledd Pwllheli wedi bod yn helpu i sefydlu banc bwyd yn y dref ac roeddent yn falch iawn o dderbyn y caws. Dywedodd ei wraig Cheryl, “Mae Hufenfa De Arfon wedi bod yn hael iawn, maent wedi cyfrannu caws a bisgedi i ni ym Mhwllheli yn barod. Mae hwn yn arwydd o ewyllys da i’r ardal i gyd ac mae caws yn fwyd amlbwrpas, yn iachusol ac wedi cael ei gynhyrchu’n lleol i safon uchel. Mae’n dda gweld cynifer o bob yn tynnu at ei gilydd yn yr argyfwng yma. Ers Cofid-19 rydym wedi bod yn brysurach nag erioed. Rydym wedi gweld nifer o deuluoedd yn dod atom oherwydd eu bod yn gweld hi’n anodd ac mi ydan ni’n gwybod bod llawer mwy o bobl yn cael trafferthion.”
Marian Wyn Jones, Swyddog Cefnogi Prosiect Cyngor Gwynedd sydd wedi cydlynu’r cyfan. Dywedodd “Dwi wedi bod yn cysylltu efo busnesau yng Ngwynedd i weld a oedd ganddynt stoc i’w gyfrannu i fanciau bwyd. Mi gysylltodd Hufenfa De Arfon gan ddweud y buasent yn gallu rhoi i fwy nag ond Gwynedd. Cafwyd addewid am bum mil pecyn caws - bu bron imi lewygu, diolch byth mod i’n eistedd i lawr! Roedd yn gynnig gwerth chweil a bydd yn cael ei rannu rhwng y banciau bwyd i gyd sydd yn gwneud gwaith anhygoel. Mae’r galw wedi codi gymaint oherwydd Cofid-19 ac mae llawer o bwysau arnynt. Bydd y caws yn cael ei rannu rhwng y 10 banc bwyd ar draws Gwynedd, cynlluniau cymunedol a Chynllun Neges. Mae caws yn fwyd amlbwrpas a maethlon felly diolch o waelod calon i HDA.”
I wybod mwy am gawsiau Dragon ymwelwch â https://dragonwales.co.uk/