Buddsoddi £8.5 Miliwn
Mae Hufenfa De Arfon, Cwmni Ffermwyr Llaeth Cydweithredol hynaf Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i fuddsoddi £8.5 miliwn mewn cyfleuster gwneud caws newydd.
Bydd y cyfleuster newydd ar safle’r Hufenfa yn Chwilog ac yn ehangu gallu cynhyrchiant. Bydd cynhyrchiant yn dyblu ac yn cynyddu o’r lefel presennol o 9,500 tunnell i 17,000 tunnell. Dechreuir ar y gwaith adeiladu yn haf 2014 a disgwylir ei gwblhau i fod yn weithredol erbyn haf 2015. Bydd y datblygiad yn digwydd mewn dwy ran. Mae’r rhan gyntaf yn costio £6 miliwn ac yn cynyddu cynhyrchiant i 11,000 tunnell. Bydd Rhan 2, am gost o £2.5 miliwn, yn cynyddu’r cynhyrchiant i 17,000 tunnell. Gwneir yr ail ran pan fydd Hufenfa De Arfon wedi ehangu ei maes llaeth i gefnogi’r cynhyrchiant ychwanegol. Bydd yr uned cynhyrchu newydd y gorau sydd ar gael; yn effeithlon , yn hyblyg ac yn cefnogi cynlluniau twf Hufenfa De Arfon o ran cwsmeriaid presenol a newydd. Ni fydd cynhyrchiant caws yn cael ei effeithio gan y gwaith adeiladu a parheir i ddefnyddio’r uned cynhyrchiant presenol tan fydd yr uned newydd yn weithredol.
“Fel rhan o’r datblygiad strategol, mi wnaeth yr Hufenfa gyhoeddi yn y Gwanwyn 2013 ei bwriad i fuddsoddi yn y safle yn y dyfodol. Ers hynny, mae gwaith diwydrwydd dyledus sylweddol wedi ei gwblhau a derbyniodd y prosiect gymeradwyaeth y Bwrdd llawn fis Mehefin. Trafodwyd y cynlluniau buddsoddi gydag aelodau mewn cyfarfodydd ardal diweddar a chawsant eu cadarnhau yn y Cyfarfod Blynyddol ar 16 Gorffennaf 2014″ eglurodd Alan Wyn Jones Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon. “Mae’r rhan nesaf o’r datblygiad yn gyfnod cyffrous iawn i’r busnes ac rydym yn ddiolchgar dros ben i’n cwsmeriaid ac aelodau am eu cefnogaeth parhaus. Rydym hefyd yn ddiolchgar i’r Royal Bank of Scotland a Chynulliad Cymru am gefnogi’r prosiect.”
Bydd y cyfleuster newydd yn diogelu’r 90 swydd presenol ac yn debygol iawn o greu 10 swydd arall yn dilyn cwblhau’r ail ran.
Os oes gan unrhyw ffermwr llaeth ddiddordeb mewn cynhyrchu llaeth i’r Hufenfa dylent gysylltu â’r Hufenfa yn uniongyrchol.