Nôl ar y Lôn
Mi ydan ni nôl ar y lôn eto a bydd Hufenfa De Arfon yn mynychu Arddangosfa Harlech Foodservice ar 4ydd a 5ed Mawrth yn Venue Cymru, Llandudno.
Rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod â llawer o gwsmeriaid ac o fydd yn cael cyfle gwych i flasu ein Cheddar Dragon sydd wedi ennill llawer o wobrau.Yn ystod y deuddydd byddwn yn arddangos Cheddar Dragon; caws mwyn, canolig, aeddfed a chlasurol ac fel y buasech yn disgwyl gan gwmni llaeth Cymreig bydd y Caerffili Dragon hefyd ar gael ar y stondin.Mae y caws Dragon ar gael mewn rhagbecynnau ac mewn blociau mwy ar gyfer bwytai sydd eisiau caws Cymreig o safon ar gyfer eu byrddau caws a bwydleni.