Cynnyrch Llaeth Gorau

Mae’n swyddogol, HDA sy’n gwneud y Cynnyrch Llaeth Gorau! Gwell fyth, dyma’r ail waith i’r Hufenfa ennill y teitl yma.

Dyfarnwyd ein Cheddar Clasurol gyda Chennin y Cynnyrch Llaeth Gorau 2018 yng ngwobrau Food Management Today Industry Awards. Mae The Food Management Today Industry Awards yn cydnabod dyfeisgarwch, arloesedd a rhagoriaeth bwyd Prydain a dim ond y gorau yn y diwydiant sy’n ennill gwobrau. Mae’r broses beirniadu yn un llym a rhoddir sylw i flas, ansawdd, pecyn, edrychiad ac arloesedd, felly mae’n gamp clodwiw ein bod wed ni ennill y categori Cynnyrch Llaeth.

Gwneir y Cheddar Clasurol gyda Chennin efo llaw; defnyddir llaeth ffermwyr ac aelodau Cymreig y Cwmni i wneud y caws Clasurol ac fe’i wneir yn y dull traddodiadol cyn ei adael i aeddfedu am o leiaf 14 mis i sicrhau bod y cheddar yn sawrus ac o’r dwysder blas priodol i’n cwsmeriaid. Mae ychwanegu cennin yn enghraifft berffaith o’n tarddiad Cymreig, mae’n un o symbolau cenedlaethol Cymru ac yn pwysleisio ein gwreiddiau Cymreig. Mae’r cennin yn rhoi tinc o nionyn i’r caws ac mae’n hynod flasus gyda thafell o fara ffres neu gracer ysgafn. Mae’r caws yr un mor dda wrth goginio; am ysbrydoliaeth ymwelwch â’n tudalennau rysáit ar ein gwefan Dragon.

Rydym yn canolbwyntio ar ddarparu cynhyrchion a gwasanaeth o’r safon orau. Mae gwobrau fel hyn yn bwysig iawn, yn arbennig gan eu bod cydnabod y gydweithfa ac ein cynhyrchion brand Dragon fel ‘y gorau’. Mae’n gymeradwyaeth i’n cynnydd, datblygiad ac ein hymrwymiad parhaus i gynhyrchu caws Cymreig o safon uchel.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yng Ngwesty The Royal Garden, Kensington gyda’r gwestai John Torode, Cogydd. Casglodd Shôn Jones, ein prif safonwr caws yma yn HDA y wobr ar ran y gydweithfa.

Enillodd Hufenfa De Arfon y wobr am y tro cyntaf yn 2016 gyda’r Cheddar wedi ei Aeddfedu yn y Ceudyllau Llechi; cheddar unigryw sy’n cael ei aeddfedu o dan ddaear gerllaw yn Ogofau Llechi Llechwedd