Person Busnes y Flwyddyn

Mae Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon, Alan Wyn Jones wedi cael ei enwi’n berson busnes y flwyddyn gan un o wobrau busnes mwyaf Cymru.

Yng ngwobrau busnes y Daily Post, derbyniodd Alan gydnabyddiaeth am ddegawd llwyddiannus yn ei swydd. Mae Alan wedi bod gyda HDA ers dros 20 mlynedd ac yn Rheolwr Gyfarwyddwr ers y deg diwethaf. Cymeradwywyd ei arweinyddiaeth a sut mae wedi llywio gweddnewidiad yn y busnes. Daeth hyn ym mlwyddyn pen blwydd HDA yn 80. O dan arweinyddiaeth Alan mae trosiant wedi dyblu i gyrraedd record bresennol o £50m. Mae gwerth y llaeth a brynir gan ffermwyr ac aelodau ar draws Gogledd a chanolbarth Cymru yn rhagori ar £30 miliwn y flwyddyn. Dros y pedair blynedd olaf mae HDA wedi buddsoddi £13.5m mewn cyfleuster cynhyrchu a phacio caws newydd modern yn y ffatri yn Chwilog. O ganlyniad mae cynhyrchiant wedi cynyddu 25% ac mae nifer o gytundebau newydd mawr wedi dod i law.

Mae Gwobrau Busnes y Daily Post yn cydnabod cwmnïau mentrus ac entrepeneriaeth talentog. Cynhaliwyd y seremoni ym Mhrifysgol Bangor, prif noddwr y gwobrau ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru. Noddwyd Person Busnes y Flwyddyn gan Brifysgol Bangor ac roedd ymhlith deg gwobr a roddwyd yn ystod y noson gyda Nicholas Owen, cyflwynydd BBC yn arwain.

Wrth drafod enillydd Person Busnes y Flwyddyn, dywedodd Yr Athro John G Hughes, Is Ganghellor Prifysgol Bangor: “Dros y 10 mlynedd mae ein henillydd wedi helpu i drawsnewid y busnes o fusnes oedd yn masnachu cynhyrchion llaeth i laethdy gwerth uwch sy’n cyflenwi nifer o gwsmeriaid nodedig yn cynnwys yr archfarchnadoedd enwog Sainsburys, Tesco, Lidl, Asda a Morrisons. Diolch i weledigaeth ac arweinyddiaeth yr enillydd, bellach mae’r cynhyrchion Dragon, sydd wedi cael ei ail-frandio’n ddiweddar, yn cael ei gydnabod fel y brand caws Cymreig mwyaf.”

Dywedodd Alan: “rwyf yn falch dros y Cwmni, mae hyn yn gydnabyddiaeth i waith caled tîm Hufenfa De Arfon i gyd, yn cynnwys staff ac ein ffermwyr aelodau. Rydym yn gyffrous am y dyfodol wrth i ni barhau i dyfu ac ehangu ein sylfaen cwsmer ym Mhrydain ac ar y cyfandir, a dal ati i ddatblygu a chynhyrchu cynhyrchion newydd yn defnyddio llaeth Cymreig o’r safon orau”.

Fe wnaeth golygydd y Daily Post, Andrew Campbell groesawu arweinyddion busnes o Ogledd Cymru i gyd i ddigwyddiad yn Neuadd Pritchard Jones. Dywedodd: “Mae’r gwobrau yma wedi bod yn dathlu’r gorau ymhlith busnesau Gogledd Cymru ers 24 mlynedd ac unwaith eto mae’n wir fraint cael sefyll yma. Mae safon y ceisiadau wedi aros yn bybyr uchel dros y blynyddoedd a gwelwyd y nifer mwyaf erioed eleni sy’n arwydd clir bod egni, penderfyniad ac entrepeneriaeth yn fyw ac yn iach yn yr ardal arbennig yma. Mi oedd y panel beirniaid yn argraffedig unwaith eto gyda safon anhygoel yr hyn ddaeth i le. Be bynnag fydd yr economi a’r Brexit arfaethedig yn taflu atom, rydym yn gwrthod camu’n ôl.”

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Economi a Chludiant Ken Skates: “Llongyfarchiadau mawr i’r busnesau i gyd, a’r unigolion talentog a gweithgar sydd tu cefn iddynt. Mae eu llwyddiant wedi cael ei gydnabod yma eleni yng Ngwobrau Busnes y Daily Post. Gyda’i gilydd mae’r busnesau yma yn gwneud cyfraniad pwysig ofnadwy i’r economi leol a hefyd i’n cymunedau wrth ddarparu swyddi o safon sy’n agos i gartref. Mae Gwobrau Busnes y Daily Post yn atgyfnerthu bod Gogledd Cymru yn gartref i rai o’r busnesau mwyaf cyffrous. Fel Llywodraeth Cymru rydym yn gweithio i gefnogi busnesau o bob maint i ffynnu a thyfu.”