Dathlu Dydd Gŵyl Dewi
Does dim diwrnod gwell i ddathlu cynhyrchion Cymreig na Dydd Gŵyl Dewi. Ni allwch gael bwyd mwy Cymreig na’n cawsiau Dragon ni, wedi eu gwneud o laeth Cymreig ar ffermydd ein haelodau sydd wedi eu lleoli yng Ngoledd a Chanolbarth Cymru. Eleni, er mwyn dathlu nawddsant ein gwlad, be am greu gwledd Gymreig blasus gyda’n cawsiau Dragon ni?
Mae ein cawsiau yn amryddawn iawn, ac mae digon o ddewis i fodloni pob archwaeth – o gaws mwyn hufennog i’r aeddfed clasurol. Mae caws Dragon yn flasus ar ben ei hun ac mae’n berffaith ar gyfer y bwrdd caws. Mae cystal bob tamaid mewn brechdan ffres (efo mymryn o bicl ella), ond, os oes gennych amser mewn llaw, be am fynd ati i goginio? Mae gennym syniadau rysáit ar gyfer Sgons Tomato a Chaws a Phate Cennin a chaws. http://www.sccwales.co.uk/cy/2014/10/03/ryseitiau-caws-dragon/
Er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi rydym wedi trefnu cyfres o weithgareddau samplo mewn nifer o archfarchnadoedd ar draws Gogledd Cymru ar 27ain, 28ain Chwefror a 1af Mawrth, felly galwch heibio i flasu ein cawsiau aeddfed a mwyn.
Gobeithio’n fawr y gwelwn ni chi yna.