Cwmni llaeth cydweithredol yn cyrraedd y brig mewn gwobrau busnes
Hufenfa De Arfon yn targedu gwerthiant o £114m
Mae cwmni llaeth cydweithredol sy’n eiddo i ffermwyr wedi cipio’r brif anrhydedd a thorri record drwy gyflawni gwerthiant o fwy na £70 miliwn.
Coronwyd Hufenfa De Arfon o Wynedd yn Fusnes Mawr y Flwyddyn Gogledd Cymru yn seremoni wobrwyo fawreddog Gwobrau Busnes y Daily Post yn awyrgylch ysblennydd Neuadd Prichard Jones ym Mhrifysgol Bangor.
Roedd y beirniaid wedi eu plesio ar ôl clywed bod y cynnydd o 17 y cant mewn trosiant yn cyd-fynd â chynnydd mewn elw i £4.1 miliwn, cynnydd o 20 y cant ar y flwyddyn flaenorol.
Ar yr un pryd mae'r hufenfa - cwmni llaeth cydweithredol hynaf Cymru - wedi ennill 70 o wobrau gwneud caws a menyn eleni, gan gynnwys hat-tric o wobrau aur rhyngwladol yn y Gwobrau Caws a Llaeth Rhyngwladol.
Mae'r sefydliad yn cyflogi 165 o staff, ac mae ganddo 154 o ffermwyr llaeth yn aelodau o’r cwmni cydweithredol. Mae’r cwsmeriaid yn cynnwys y rhan fwyaf o'r cadwyni archfarchnadoedd mwyaf adnabyddus yn ogystal â siopau annibynnol a chwmnïau gwasanaethau bwyd.
Ond dywed Hufenfa De Arfon nad oes bwriad i orffwys ar ei rhwyfau gan fuddsoddi £21.5 miliwn mewn cynllun twf pum mlynedd, Prosiect y Ddraig, sy'n cael ei gefnogi gyda £5 miliwn o Gynllun Buddsoddi mewn Bwyd Llywodraeth Cymru.
Mae'r cynllun yn cynnwys cyfleusterau newydd ar gyfer derbyn llaeth, capasiti gwneud caws ychwanegol a llinellau pacio newydd yn ogystal â pharhau i wella ei berfformiad amgylcheddol ac ynni.
Y nod erbyn 2024/25, yw cynyddu cynhyrchiant blynyddol o 17,000 i 23,000 tunnell o gaws yn ei laethdy yn Chwilog, ger Pwllheli, a rhagwelir y bydd gwerthiant yn cyrraedd £114 miliwn.
Wrth siarad ar ôl derbyn y wobr, dywedodd Kirstie Jones, rheolwr marchnata yn Hufenfa De Arfon: “Mae’n wirioneddol wych i ni, mae’n dangos bod ein twf wedi bod yn dda ac yn gadarnhaol wrth symud ymlaen .
“Mae cydnabod hynny’n beth da iawn i ni fel busnes er mwyn helpu i sicrhau mwy o werthiant caws ac mae’r cyfan yn helpu i adeiladu ein proffil mewn marchnadoedd domestig a rhyngwladol.”
Rhywun oedd yr un mor falch oedd y ffermwr-gyfarwyddwr Gareth Jenkins a ddywedodd: “Nid yw wedi bod yn hawdd dros gyfnod Covid ond mae wedi bod yn ymdrech tîm gyda’r holl berchnogion fferm yn cyfrannu - 154 ohonom.
“Rydym yn cyflenwi llaeth o safon i’r ffatri ac mae gennym staff a rheolwyr rhagorol yno. Llongyfarchiadau i’r tîm i gyd.”
Yn ôl y rheolwr gyfarwyddwr Alan Wyn Jones, mae gwreiddio yng nghefn gwlad Cymru yn bwysig i'r busnes, fel y mae diwylliant ac economi Cymru.
Ychwanegodd: “Ein hamcan strategol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf yw cyflawni elw gweithredol o bump y cant, sy’n uwch na’r cyfartaledd yn y sector.
“Rydym yn ymfalchïo mewn cynhyrchu caws Cymreig o ansawdd eithriadol ac mae gennym yr holl achrediadau cenedlaethol gofynnol ar waith i ragori ar safonau a rhoi sicrwydd i’n cwsmeriaid, diolch i sgôr AA gan Gonsortiwm Manwerthu Prydain a Red Tractor Farm Assurance.
“Unwaith y bydd y llaeth wedi’i gasglu mae’r caws i gyd yn cael ei gynhyrchu a’i bacio ar y safle, gan roi rheolaeth lwyr i ni dros y broses.
“Rydym yn falch iawn o’n gwreiddiau Cymreig, cymaint felly fel bod gennym bolisi i brosesu llaeth Cymreig yn unig a defnyddio’r Gymraeg ar ein pecynnau.
“Mae brand blaenllaw Dragon yr hufenfa bellach yn cyfrif am 10 y cant o’r busnes ac mae gennym gynlluniau i gynyddu hyn dros y blynyddoedd i ddod.
“Fel rhan o’n strategaeth twf, rydym yn cydweithio â brandiau Cymreig eraill gan gynnwys Halen Môn, wisgi Penderyn, Tregroes Waffles a Jones o Gymru.
“Rydym hefyd wedi adnewyddu partneriaeth yn ddiweddar gyda chlwb rygbi chwedlonol y Scarlets yn Llanelli er mwyn helpu i adeiladu adnabyddiaeth brand yn ne Cymru.
“Ar y cyfan, mae’r busnes yn perfformio’n gryf ac mae potensial enfawr ar gyfer twf yn y dyfodol a fydd yn ei dro yn helpu i hybu economi cefn gwlad Cymru.”