Gwobrau Busnes Daily Post 2017
Mae Hufenfa De Arfon yn falch iawn ei bod ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Busnes y Flwyddyn, Gwobrau Busnes Daily Post 2017.
Mae’r gwobrau busnes mawreddog yma yn dathlu a thynnu sylw at straeon o lwyddiant yng nghymuned busnes Gogledd Cymru. Fe wnaeth Hufenfa De Arfon arddangos perfformiad busnes rhagorol ynghyd â thystiolaeth am gadernid ei sefyllfa ariannol, llwyddiannau busnes campus ac arloesedd sy’n sefyll allan.
Fe wnaeth y cais ddangos dilysrwydd llwyddianau’r hufenfa ar prif bigion oedd:
Buddsoddiadau
Yn gynnar yn 2015 dechreuodd HDA ar raglen datblygu sylweddol, buddsoddiad cyfalaf o £12 mliwn yn cynnwys adeiladu uned pwrpasol i wneud caws, dyma’r y cyntaf i gael ei gwneud ym Mhrydain ers y 1970au cynnar. Agorwyd yr uned yn swyddogol gan EUB Tywysog Cymru yng Ngorffennaf 2016. O ganlyniad i’r buddsoddiad yma cynyddodd y gallu cynhyrchu o draean. Yn ogystal, fe wnaeth y Cwmni ailddatblygu ei huned pacio i gyd er mwyn cyflawni cytundebau newydd gydag archfarchnadoedd yn genedlaethol. Mae’r buddsoddiad yma wedi sicrhau bod gan HDA un o’r unedau gwneud, a phacio caws mwyaf effeithlon a hyblyg ym Mhrydain. Mae buddsoddiad arall o £1 miliwn ar y gweill yn 2017 hefyd i osod offer gratio caws er mwyn gwella ein dulliau pacio hyblyg.
Gwerthiant a Phroffidioldeb
Fe wnaeth cyfaint gwerthiant dyfu’n sylweddol yn y flwyddyn, hynny oherwydd effeithlonrwydd y buddsoddiadau newydd a llwyddo i ennyn cwsmeriaid o safon gyda margin da.
Strategaeth Masnachol
Oherwydd ansefydlogrwydd y farchnad byd eang, sawl blynedd yn