Buddugoliaeth Ddwbl

Llwyddiant deublyg i'r Double Gloucester

Mae Hufenfa De Arfon yn dathlu yn dilyn llwyddiant deublyg i'r caws Double Gloucester a enillodd y wobr aur a’r goron am y caws gorau yng Nghymru yng Ngwobrau Caws Rhithiol 2021.

Cynhaliwyd y seremoni fawreddog o dan arweiniad yr arbenigwr bwyd lleol a’r darlledwr radio Nigel Barden. Roedd y gwneuthurwyr caws gorau o ledled Prydain yn cystadlu ac roedd 13 o feirniaid profiadol ar y panel yn cynnwys yr enillydd Masterchef, Dhruv Baker; sylfaenydd yr Academi Caws, Tracey Colley; a phrynwr caws Marks and Spencer, Chris Dawson.

Lansiwyd y Gwobrau Caws Rhithiol am y tro cyntaf llynedd, ar ôl i bandemig Cofid-19 daro er mwyn hyrwyddo a dathlu’r cawsiau Prydeinig gorau ac i roi hwb i’r diwydiant mewn amser o angen mawr. Y Gwobrau Caws Rhithiol oedd yr unig un yn 2020 gan fod y sioeau amaethyddol, gwyliau bwyd a digwyddiadau tebyg ar draws y wlad wedi cael eu canslo oherwydd cyfyngiadau clo Cofid.

Er ei fod wedi cael i drefnu ar fyrder denodd y gwobrau dros 300 o gystadleuwyr a bu’n llwyddiant ysgubol. Rhoddwyd yr elw i gyd tuag at gefnogi elusennau amaethyddol a chynhyrchwyr caws. Roedd mor boblogaidd, penderfynwyd trefnu’r gwobrau eto eleni a chystadlodd llawer iawn mwy y tro hwn mewn 40 o gategorïau.

Mae’r anrhydeddau yma yn ardystiad penigamp i’r feistrolaeth o gynhyrchu caws. Mae’r Double Gloucster yn gaws ifanc, yn hufennog ac yn ysgafn ei flas ac roedd hynny’n apelio’n fawr i’r beirniaid profiadol.


Dywedodd Nick Beadman, Pennaeth Masnachol: “Rydym yn hapus iawn gyda’r Double Gloucester ac mae derbyn cydnabyddiaeth gan banel o feirniaid uchel eu parch yn gydnabyddiaeth i’n ffydd ni ynddo. Rydym i gyd wrth ein boddau. Mae hyn wir yn gydnabyddiaeth i’r gwaith caled rydym yn ei roi i gynhyrchu cawsiau o’r safon orau. Mae’n ddechrau disglair i’r tymor gwobrau caws. Mae derbyn dau o’r prif wobrau gan un o baneli beirniaid pwysicaf y diwydiant yn fuddugoliaeth i'r aelodau i gyd ac i bawb sy’n gweithio yma.”

Mae’r gwobrau Caws Rhithiol yn ychwanegiad gwerth chweil i’r cabinet tlysau o lwyddiannau’r Cwmni dros y blynyddoedd i gynnwys Gwobrau Caws Rhyngwladol Nantwich, Gwobrau Caws Prydain, Gwobrau Caws y Byd a Gwobrau Caws Byd Eang i enwi ond rhai. Un o brif elfennau llwyddiant rheolaidd HDA yw’r ffaith ein bod yn cynnal rhagoriaeth cynhyrchiant a safon yn barhaus sy’n ein rhoi ar flaen cynhyrchiant caws ym Mhrydain.

Ychwanegodd Nick: “mae angen cymeradwyo pawb sydd wedi gweithio’n galed i drefnu’r digwyddiad yma llynedd ac eleni, a'u proffesiynoldeb a’r modd maent wedi mynd ati i helpu i godi ymwybyddiaeth am rai o gawsiau penigamp Prydain. Mae’r fformat rhithiol wedi bod yn dderbyniol iawn ac mae’n debygol y bydd yn parhau ar ôl i ni, gobeithio, roi argyfwng y pandemig tu cefn i ni.”