Caws Dragon Bob Dydd, Bob Ffordd
Brand blaenllaw Dragon Hufenfa De Arfon yn lansio hysbyseb deledu newydd gyda pum rysáit blasus i'ch cael chi drwy'r wythnos
Gyda phum rysáit blasus newydd, mae Dragon Cheddar yn dod i'ch sgrin gyda hysbyseb deledu newydd sbon yr wythnos hon. O gaws ar dost clasurol, taten boeth a chysurus drwy’i chroen gyda chaws a ffa, lasagne llysiau cyfoethog a moethus, cawl cig oen Cymreig traddodiadol a pizza llawn blas gyda chaws wedi toddi, mae’n ddigon i’ch cael chi o ddydd Llun hyd at Gwener.
Gyda gwerthiant caws ar-lein yn codi i’r entrychion, ac wrth gwtyn lansio gwefan newydd Dragon well ddiwedd y llynedd, mae Hufenfa De Arfon sy’n cynhyrchu Dragon Cheddar yn dod â’r caws yn fyw ar eich teledu.
Comisiynwyd yr hysbyseb o dan adain #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste a ymgyrch ehangach 'Arwyr Cymreig' ar draws y diwydiant, ynghyd â chydweithio ar ymgyrch Bwyd a Diod Cymru i adeiladu ar ymbwyddiaeth cwsmer a'u teyrngarwch i frandiau Cymreig yng Nhgymru a gweddill Prydain. Bydd yr hysbyseb Dragon newydd yn cael ei ddarlledu ar SkyAdsmart yng Nghymru, system sy'n hysbysebu ar draws Sky a Virgin Media o 8fed Mai ymlalen.
I gefnogi’r ymgyrch bydd hysbysebion Allan o’r Cartref hefyd yn ddigidol ar sgrîns ar yr M4 yn Abertawe, Caerdydd a’r Cymoedd, gyda hysbysebion ychwanegol ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
Wrth esbonio’r cysyniad y tu ôl i’r hysbyseb deledu dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon, Alan Wyn Jones, “Wrth i werthiant caws ar-lein dyfu ar raddfa cyflym iawn yn y farchnad laeth, rydym yn mynd â Cheddar Dragon i’r lefel nesaf drwy arddangos ei hyblygrwydd i filoedd o wylwyr teledu.
“Mae llinell glo’r hysbyseb Bob Dydd Bob Ffordd yn cyfleu hyblygrwydd ac amlbwrpasedd Cheddar Dragon yn berffaith. Waeth beth rydych chi’n hoffi ei goginio na lefel eich sgiliau, gellir mwynhau Cheddar Dragon bob dydd ac mewn unrhyw ffordd y dewiswch chi.
“Yn Dragon, rydym yn ymfalchïo mewn cynhyrchu caws Cymreig blasus o ansawdd uchel y gall pawb ei fwynhau. Mae ein Cheddar Cymreig Aeddfed yn cael ei wneud gyda llaeth gorau un ein haelodau fferm cydweithredol gan ddefnyddio ryseitiau traddodiadol, a'r canlyniad yw caws sy’n llawn blas ac yn berffaith ar gyfer unrhyw achlysur.
“Felly ewch amdani, byddwch yn greadigol, a darganfyddwch yr holl ffyrdd anhygoel y gallwch fwynhau Cheddar Dragon, a chofiwch gadw llygad am ein hysbyseb newydd i gael ysbrydoliaeth. Am ragor o wybodaeth ac i archebu Cheddar Dragon ar-lein ewch i https://dragonwales.co.uk/.”