Dug a Duges a'r Gorau o Ogledd Cymru
Cafodd Dug a Duges Caergrawnt y cyfle i flasu rhai o fwydydd gorau Gogledd Cymru yn cynnwys ein caws unigryw ni wedi ei wneud gyda Halen Môn yn ystod eu hymwelid i'w cyn gartref, Ynys Môn.
Cafodd Dug a Duges Caergrawnt y cyfle i flasu rhai o fwydydd gorau Gogledd Cymru, yn cynnwys ein caws unigryw ni wedi ei wneud gyda Halen Môn, yn ystod ymweliad i’w cyn gartref, Ynys Môn.
Dangoswyd technegau arbennig a ddefnyddir gan Halen Môn i wneud eu halen môr i’r cwpwl brenhinol a chawsant flasu cheddar Halen Môr cyntaf Cymru a wneir gennym ni yma yn Hufenfa De Arfon.
Bu’r Dug a’r Dduges yn trigo yn Ynys Môn o 2010 tan 2013 ac yn ystod ymweliad swyddogol i’w cyn gartref, 8fed Mai ymwelsant â ffatri halen môr Halen Môn a’u siop ym Mrynsiencyn. Roedd y ddau wedi gwisgo’n anffurfiol ar gyfer yr ymweliad oedd yn un diffwdan. Cyrhaeddodd y cwpwl mewn hwylia da ar ôl bod yn uned hofrennydd achub gwylwyr y glannau ac roeddent yn sgwrsio’n rhwydd gyda staff, partneriaid bwyd, ffrindiau a theulu.
Croesawyd hwy gan Alison a David Lea-Wilson MBE, cyd-sefydlwyr Cwmni Halen Môn Anglesey Sea Salt, a dau o’u plant, Jake a Jess sydd yn gweithio yn y busnes hefyd. Aethant a’r Dug a’r Dduges ar gylchdaith i weld eu hadnoddau gwneud halen môr cyn cael sesiwn blasu pryd y cawsant gyfle i flasu ein Cheddar Halen Môr Dragon ni, un o’r cynhyrchion newydd rydym wedi eu datblygu ar gyfer yr amrywiaeth newydd crefft llaw.
Ymhlith y gwesteion oedd Linda Lewis-Williams, Rheolwraig Datblygu Cynhyrchion Newydd HDA; adroddodd “mi wnaeth y ddau fwynhau blasu’r caws gan ddweud eu bod yn gallu blasu’r halen. Roedd William eisiau gwybod sut oedd yr halen yn gwneud gwahaniaeth i flas y caws. Roedd yn foment prowd i mi, ac roedd yn gyffrous iawn gallu dangos iddynt sut oedd llaeth ein ffermwyr yn cael ei ddefnyddio a sut mae cynhyrchwyr Gogledd Cymru yn cydweithio i greu cynnyrch bendigedig.”
Dug a Duges Caergrawnt (dde) yn blasu cheddar halen môr Dragon yn Halen Môn gyda Linda Lewis-Williams, Rheolwraig Datblygu Cynnyrch Newydd (chwith) a David Lea-Wilson MBE, cyd-sefydlydd Cwmni Halen Môn Anglesey Sea Salt (canol).