Pob cam yn cyfri: Taith gerdded hufenfa’n codi dros £8,000 ar gyfer diffibrilwyr cymunedol
Mae Hufenfa De Arfon wedi helpu i ariannu wyth diffibriliwr cymunedol i’w gosod ar hyd a lled yr ardal leol yn dilyn ymgyrch codi arian lwyddiannus drwy gerdded a gododd £8,764.
Wedi'i gwreiddio mewn cymunedau ledled gogledd, canolbarth a gorllewin Cymru, mae Hufenfa De Arfon yn gwmni llaeth cydweithredol Cymreig gyda ffermydd sy’n aelodau ac mae wedi bod yn cyflenwi llaeth ers cenedlaethau. Codwyd y cyfanswm trwy her gerdded JustGiving a raffl Nadolig flynyddol yr Hufenfa a gynhyrchodd ddigon o arian ar y cyd i brynu saith diffibriliwr. Mae cefnogaeth gan Achub Bywyd Cymru wedi helpu i sicrhau cyllid ar gyfer dyfais ychwanegol gan ddod â’r cyfanswm i wyth.
Bydd y diffibrilwyr yn cael eu gosod mewn lleoliadau cymunedol allweddol yn Llanbrynmair, Penmorfa, Llanbedrog, Beddgelert, Cerrigydrudion, Llandwrog a Phenmachno gyda'r safleoedd yn cael eu henwebu gan drigolion lleol i sicrhau bod y dyfeisiau'n cael eu gosod lle mae eu hangen fwyaf.
Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon:
“Mae hon wedi bod yn ymdrech gymunedol wirioneddol ac rydym ni’n hynod falch o’r hyn a gyflawnwyd gyda’n gilydd. “Bydd yr holl ddiffibrilwyr yn cael eu gosod mewn lleoliadau a enwebwyd gan drigolion lleol, gan sicrhau eu bod yn cael eu gosod lle mae eu hangen fwyaf o fewn y gymuned. “Mae gan bob diffibriliwr sy’n cael ei osod y potensial i achub bywyd ac rydym ni’n ddiolchgar i bawb a cyfrannodd, a gymerodd ran yn y daith gerdded, a brynodd docynnau raffl neu a helpodd i enwebu lleoliadau.”
Mae’r fenter yn rhan o ymrwymiad parhaus Hufenfa De Arfon i gefnogi lles lleol a helpu i achub bywydau. Unwaith y bydd y diffibrilwyr wedi’u gosod a’u cofrestru, mae’r Hufenfa’n bwriadu parhau i weithio gydag Achub Bywyd Cymru i gynnig sesiynau ymwybyddiaeth yn yr wythnosau ar ôl eu gosod, gan helpu pobl leol i deimlo’n hyderus ac yn barod i wybod beth i’w wneud mewn sefyllfa o argyfwng.
Mae'r fenter hefyd wedi cyrraedd rhestr fer y Wobr Cymuned Leol yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru gyda'r seremoni wobrwyo yn digwydd ar 16 Ebrill yn Abertawe.
Parhaodd Mr Jones:
“Mae cyrraedd y rhestr fer yn anrhydedd go iawn ac yn adlewyrchu ymrwymiad yr Hufenfa i gefnogi'r cymunedau rydym ni’n eu gwasanaethu. Rydym ni wrth ein bodd bod y fenter hon wedi derbyn cydnabyddiaeth ehangach.”
Ychwanegodd Tomos Hughes, Cydlynydd Cymunedol Achub Bywyd Cymru ar gyfer y gogledd:
“Gall mynediad cynnar at ddiffibriliwr achub bywydau, a dyna pam mae'r fenter hon mor bwysig i gymunedau gwledig. Os bydd rhywun yn cwympo ac nad yw'n anadlu'n normal, dylai rhywun sy'n sefyll o gwmpas ffonio 999 ar unwaith. Bydd y sawl sy'n trin y galwadau’n rhoi cyfarwyddiadau CPR ac yn cyfeirio person arall at y difffibriliwr cofrestredig agosaf. Drwy gefnogi Hufenfa De Arfon a chymunedau lleol i gynyddu mynediad at y dyfeisiau hanfodol hyn sy'n achub bywydau, gellir helpu mwy o bobl mewn argyfwng.”