Allforio Caws Dragon i Malta
Mae’r Caws Dragon bellach yn profi’n boblogaidd dramor. Yn gynharach eleni, wrth arddangos yn sioe fwyd Gulfood, sioe masnach bwyd a diod fwyaf y byd, gwelwyd diddordeb mawr gan brynwyr yn ein caws Cymreig traddodiadol. Ers y sioe rydym wedi bod yn brysur yn ymateb i ymholiadau ac rydym eisoes wedi ennyn busnes gyda dosbarthydd yn Malta.
Mae’r rhan fwyaf o’r amrywiaeth Caws Dragon wedi mynd am Malta ac mae’r dosbarthydd wedi diogelu lle mewn nifer o’r storfeydd mawr yno yn barod. Mae’n gwerthu’n dda diolch i’r gymuned yn Malta. Bydd y Caws Dragon o Ogofau Llechwedd yn ymuno yn fuan hefyd gan ein bod newydd dderbyn yr archeb cyntaf am y caws aeddfed yma.
Bydd cael brand caws i allforio yn agor y drws i farchnadoedd newydd i Hufenfa De Arfon, yn arbennig gan fod gennym amrywiaeth traddodiadol i’w gynnig. Gobeithiwn y byddwn yn allforio rhagor o gaws i farchnadoedd newydd yn y dyfodol agos.