Ffarwelio â staff ffyddlon yn hufenfa fwyaf Cymru
Mae tri gweithiwr o gwmni llaeth cydweithredol mwyaf blaenllaw Cymru sy’n eiddo i ffermwyr yn ymddeol gyda 117 mlynedd o wasanaeth rhyngddynt. Mae Morgan Owen, Gwyn Jones a Peredur Williams yn gadael Hufenfa De Arfon gyda chyfeillgarwch gydol oes a llond trol o atgofion melys. O ddaeargrynfeydd i hediadau brawychus a galwadau boreol, mae gan y tri sydd ar fin ymddeol lawer o straeon i'w hadrodd am eu hamser yn yr hufenfa.
Morgan o Langybi yw’r un sydd wedi gwasanaethu hiraf o’r tri, ar ôl gweithio am bron i hanner canrif yn yr hufenfa. Dechreuodd ei yrfa 45 mlynedd yn y maes caws, cyn symud ymlaen i redeg yr uned maidd.
Wrth siarad am ei gyfnod yn yr hufenfa, dywedodd Morgan: “Rydw i wastad wedi hoffi dod i weithio yma, gwneud fy ngorau yn fy swydd a chyfarfod efo gwahanol bobl. Dros y blynyddoedd dwi erioed wedi teimlo’r awydd i adael. Rydw i wedi gweld llawer o bethau dros y degawdau diwethaf, ond rwy’n meddwl mai’r syndod mwyaf oedd profi daeargryn mawr a ysgydwodd yr ystafell.
“Er bod gadael fy nghydweithwyr a ffrindiau yn yr hufenfa yn drist, a’i bod yn biti na fyddaf yn cael y cyfle i weithio yn y ffatri faidd newydd, rwy’n edrych ymlaen at fy ymddeoliad nawr.”
Heb fod ymhell y tu ôl i bedwar degawd a hanner epig Morgan mae Gwyn sydd wedi bod yn gweithio i’r hufenfa ers 42 mlynedd. Ymunodd Gwyn o Glynnog Fawr, sy’n ffermio yn ei amser sbâr, â’r hufenfa yn 1982 a bu’n gweithio ar ochr dechnegol gwneud caws.
Dywedodd Gwyn: “Roedd fy ngwaith yn yr hufenfa yn amrywiol ac wnes i erioed ystyried gyrfa arall. Rydw i wedi bod yn gweithio yn yr adran Dechnegol yn bennaf yn rheoli sicrwydd ansawdd, hefyd yn cefnogi'r gwasanaethau amgylcheddol yn y blynyddoedd diwethaf.
“Byddaf yn gweld eisiau gweithio gyda fy nghydweithwyr, nifer ohonynt wedi dod yn ffrindiau, ond bydd gen i ddigon i’m cadw’n brysur gartref ar y fferm a gobeithio y bydd gen i fwy o amser i wylio rygbi a phêl-droed.”
Gyda 30 mlynedd o brofiad yn yr hufenfa, mae Peredur hefyd yn gadael gyrfa hir a boddhaus, yn rheoli y berthynas â'r ffermwyr o bob rhan o Gymru. Wrth siarad am ei brofiad, dywedodd: “Pan ddechreuais i yn y swydd roeddwn i’n gobeithio y byddwn i’n gweithio yma am flynyddoedd lawer, ond doeddwn i ddim yn disgwyl y byddwn i yma cyhyd, sy’n dangos pa mor werth chweil mae wedi bod.
“Rydw i wedi bod wrth fy modd yn gweithio gyda’r bobl yn yr hufenfa a’r holl ffermwyr sy’n gwneud y cwmni yr hyn ydy o. Mae wedi bod yn swydd ddiddorol iawn ac rydw i wedi gweithio gyda nifer o gymeriadau ar hyd y ffordd, er ni fyddaf yn gweld eisiau’r ffôn yn canu am 6 o'r gloch ar fore Sul!”
Mae Peredur hefyd yn cofio profiad brawychus ar un o'i deithiau busnes. Dywedodd: “Gorffennaf 1997 oedd hi, ac roeddwn i’n un o chwe rheolwr oedd yn teithio ar awyren fechan o Ddinas Dinlle i Goldenvale, de Iwerddon. Roedd yr hedfaniad yn ôl yn hunllefus, heb unrhyw radar na radio’n gweithio ar yr awyren ac roedd un o’r injans yn methu o hyd.”
Heblaw am brofiadau sy’n ddigon i godi gwallt eich pen, mae Peredur sy’n byw ar dyddyn yn Rhydyclafdy, Pen Llŷn bellach yn edrych ymlaen at ymddeol a threulio mwy o amser gyda’i deulu, teithio, bragu cwrw a ffermio ychydig. Gorffennodd trwy ddweud: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y dyfodol ac rwy’n dal i ddweud nad ydw i erioed wedi dod ar draws caws cystal â’r caws blasus mae Hufenfa De Arfon yn ei gynhyrchu heddiw.”
Ychwanegodd Alan Wyn Jones, y Rheolwr Gyfarwyddwr, “Mae Morgan, Gwyn a Peredur wir wedi rhoi oes o wasanaeth i’r Hufenfa. Yn eu rolau amrywiol mae nhw wedi cyfrannu'n helaeth at lwyddiant a thwf y busnes, ac mae lefel y gwasanaeth mae nhw wedi ei roi’n dyst i safonau uchel eu gwaith a'r parch tuag atyn nhw. Ar ran y staff a’n haelodau, rydym ni’n diolch iddyn nhw am eu gwasanaeth anhygoel ac yn dymuno ymddeoliad hapus ac iach iawn i’r tri.”