Codi Hwyl Hen Filwyr
Cyfrannodd Hufenfa De Arfon at godi hwyl hen filwyr gydag anrheg o gawsiau o’r radd flaenaf tuag at eu dathliadau Nadolig. Rhoddwyd cheddar wedi ei aeddfedu yn y ceudyllau, cheddar efo cennin a chaws Caerffili i bensiynwyr Chelsea ar gyfer eu seremoni ‘cawsiau Nadolig’ blynyddol.
Mae rhoi caws i hen ryfelwyr i fwynhau dros y Nadolig yn hen hen draddodiad ac yn dyddio yn ôl i 1692 pan ofynnodd yr Ysbyty Brenhinol i’r gwerthwr caws lleol ddarparu caws i’r pensiynwyr fel trît Nadolig. Yn ôl hanes mae caws wedi bod ym allweddol wrth ddarparu maeth pwysig i filwyr.
Roedd 2018 yn nodi canmlwyddiant y cadoediad a thalwyd teyrnged i’r dynion a’r merched dewr a roddodd eu bywydau i frwydro yn ymrysonau Prydain ers y Rhyfel Byd Cyntaf.
Dywedodd Alan Wyn Jones y Rheolwr Gyfarwyddwr: “rydym yn falch iawn ein bod wedi cyfrannu amrywiaeth o gawsiau i bensiynwyr Chelsea. Mae’r Seremoni Cawsiau Nadolig yn draddodiad arbennig ac mae’n crynhoi popeth sy’n dda am gyfnod yr Ŵyl.”
Roedd y cannwr a’r pianydd rhyngwladol Joe Stilgoes yno i godi’r hwyl gyda chymysgedd o alawon traddodiadol yn y seremoni.
Eleni, y pensiynwr a’r cyn-filwr Alan Goddard gafodd y fraint draddodiadol o dorri’r caws. Dywedodd: “dwi’n teimlo’n falch iawn o fod yn rhan o draddodiad yr Ysbyty Brenhinol sy’n dyddio’n ôl i 1692 pan yr agorodd.”
Yn ogystal, dywedodd Cadeirydd Dairy UK: “does yr un amser gwell na’r Seremoni Cawsiau Nadolig i anrhydeddu ein hen filwyr a dathlu’r cawsiau blasus a maethlon ochr yn ochr â gwneuthurwyr caws rhagorol. Dyma’r dechrau perffaith i dymor y Nadolig.”