Fred yn Dathlu Hanner Can Mlynedd
Yn ddiweddar dathlodd Fred Williams, dyn cynnal a chadw ben-blwydd arbennig o weithio i Hufenfa De Arfon, hanner can mlynedd o wasanaeth.
Dechreuodd fel prentis i wneud gwaith saer yn yr hufenfa yn 1967, hanner can mlynedd yn ddiweddarach mae Fred yn dal i weithio’r un mor galed ag erioed ac mae’n aelod staff gwerthfawr iawn sy’n uchel ei barch. Wrth i’r gydweithfa dyfu ac esblygu dros yr hanner can mlynedd olaf mae gwaith Fred wedi newid i gyd-fynd â hynny ac nid yw bellach yn gorfod adeiladu corff y fflôt cludo llaeth a’r faniau casglu llaeth!
Dywedodd Fred “Dwi wedi gweld llawer o newid dros y blynyddoedd, o ran staff a gwaith, ond dwi wedi mwynhau, ac yn dal i fwynhau gweithio yn yr hufenfa. Dwi’n difaru dim. Mae llawer o hwyl a chwerthin wedi bod yn yr hanner can mlynedd dwytha a dwi wedi gwneud ffrindiau da iawn.”
Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr “Yn ystod ei amser yma bydd Fred wedi gweld newidiadau aruthrol yn y man gwaith ond mae bob amser wedi ymroi ac ymdrechu 100% ym mhob agwedd o’i waith. Mae cyfnod ei wasanaeth wir yn gamp aruthrol. Ar ran ei gydweithwyr i gyd, ein Cyfarwyddwyr ac aelodau diolchwn i Fred am ei wasanaeth ffyddlon a gobeithiwn y bydd yn dal ati am hir eto.”
Mae Fred yn ŵr teulu ffyddlon hefyd ac wedi gostwng ei oriau gwaith i dreulio mwy o amser gyda’i wraig, plant a’i wyrion, ond nid oes ganddo fwriad i ymddeol!