Gwobr Gwir Flas i Hufenfa De Arfon

Mae Hufenfa De Arfon yn dathlu llwyddiant eu Menyn Hallt Cymreig Dragon sydd wedi derbyn anrhydedd 2 Seren Aur gan Wobrau Gwir Flas, cynllun gwobrwyo bwyd mwyaf y byd, a’r mwyaf llym.

Mae’n gamp eithriadol i’r cwmni ffermwyr llaeth cydweithredol gyda bron i 10,000 o gystadleuwyr yn ceisio am y gwobrau eleni. Mae pob un cynnyrch yn cael eu blasu yn ddienw gan banel o arbenigwyr y diwydiant, yn cynnwys ysgrifenwyr bwyd a phrynwyr bwyd siopau arwyddocaol fel Harrods, Fortnum & Mason a Selfridges. Mae’r broses beirniadu yn un llym a dim ond y gorau un sy’n derbyn gwobr.

“Mae Gwobrau Gwir Flas yn darparu meincnod perffaith i gynhyrchwyr bwyd gan fod eu canolbwynt ar flas a safon yn hytrach na’r brand neu becynnu coeth. Dim ond 6% o’r cynhyrchion a fu’n cystadlu wnaeth ennyn 2 seren felly, yn amlwg, rydym yn falch iawn i fod ymhlith y goreuon” eglurodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon. “Bydd derbyn gwobr fawreddog sy’n chael ei chydnabod yn genedlaethol o gymorth i ni godi proffil y menyn a’r brand Dragon. Does dim os y bydd o help i’n hymdrechion i hyrwyddo Dragon tu allan i’r dywysogaeth.”