Ymweliad Cyngor Gwynedd

Roedd yn bleser cael croesawu criw o Gyngor Gwynedd ar safle ar 9fed Mai. Daeth cynghorwyr a swyddogion y cyngor i’r hufenfa fel rhan o weithgareddau wythnos busnes y cyngor a drefnwyd i hyrwyddo a thynnu sylw at fusnesau llwyddiannus yn eu hardaloedd.

Dyma’r tro cyntaf i aelodau Cyngor Gwynedd ddod i HDA ers i ni fuddsoddi miliynau i ddatblygu ein cyfleusterau a gosod uned gwneud caws newydd ac adnoddau adran pacio. Ymwelodd chwe aelod gan gynnwys Elfed Powell Roberts, Annwen Hughes, Annwen Daniels, Gareth Anthony Roberts, Selwyn Griffiths, Anwen J Davies ac Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economi. Roedd Sioned Williams, Pennaeth Gwasanaethau Economi a Chymuned, Colin Morris, Rheolwr Cefnogi Busnes a Gwenda Roberts, Uwch Swyddog Asedau hefyd yn bresennol.

Cyfarfu’r criw gyda’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Alan Wyn Jones ac Elwyn Jones, Ysgrifennydd y Cwmni/Rheolwr Adnoddau Dynol a Chydymffurfiaeth. Cawsant fynd o gylch yr hufenfa i gyd yn cynnwys ymweld â’r adnoddau newydd; yn ogystal cawsant gyfle i brofi a safoni amrywiaeth eang o gawsiau.

Arsylwodd Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Ddatblygu Economi, Cynghorydd Ioan Thomas: “Fel rhan o’r wythnos busnes eleni roeddem yn falch iawn o allu ymweld â nifer o gwmnïau sydd â phroffil uchel iawn yn y sir. Roedd yr ymweld â Hufenfa De Arfon yn gyfle i dynnu sylw at y cyfleoedd cyflogaeth pwysig mae’n ei gynnig yn ardal Dwyfor, ac i ddysgu mwy am eu cynlluniau datblygu. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r cwmni am gymryd amser i rannu eu profiadau gyda ni er mwyn in helpu ni i ddeall mwy am bwysigrwydd buddsoddiad preifat i’r economi leol”