Arddangosfa Harlech Foods 2017

South Caernarfon Creameries is off on the road again to introduce our fantastic range of products to trade buyers.

Mae Hufenfa De Arfon ar ei ffordd unwaith eto i arddangos ei hamrywiaeth gwych o gynhyrchion i brynwyr masnachol. Rydym yn falch iawn o gefnogi gwahoddiad i arddangos ein cynnyrch yn Arddangosfa Bwyd 2017 Harlech Foods a gynhelir yn Feniw Cymru, Llandudno ar 28ain Chwefror a 1af Mawrth.

Bydd y digwyddiad yn gyfle i ni gyfarfod â chogyddion, prynwyr a phobl broffesiynol y diwydiant archfarchnad a gwasanaethau bwyd, a hefyd yn gyfle iddynt hwy weld, blasu a samplo ein cynhyrchion i gyd.

Un o’r prif atyniadau fydd ein Caws Dragon, a bydd ar gael i bawb samplo.

Edrychwn ymlaen at y diwrnod gan ei fod bob amser yn rhoi cyfle perffaith i ni siarad gyda’n cwsmeriaid a rhai newydd. Mae’n debyg y bydd yn sioe brysur gyda dros 150 o arddangoswyr!

www.harlech.co.uk