Gwobrau Lantra Cymru

Roedd Hufenfa De Arfon yn falch o gipio’r ail safle yng Nghategori Busnes BBaCh Sgiliau Bwyd Cymru allan o 200 o geisiadau yng Ngwobrau Lantra Cymru 2021 wythnos diwethaf. Gan gydnabod mentrau, sgiliau a brwdfrydedd unigolion sy’n dilyn gyrfaoedd yn y sectorau amgylcheddol, diwydiannau’r tir a gweithgynhyrchu bwyd, dyma’r tro cyntaf i raglen Sgiliau Bwyd Cymru gael categori yn y Gwobrau.

Dyma’r tro cyntaf i raglen Sgiliau Bwyd Cymru gael categori yng Ngwobrau Lantra Cymru. Mae’n gydnabyddiaeth o’r busnesau gweithgynhyrchu bwyd a diod sydd wedi ymgymryd â hyfforddiant drwy raglen Sgiliau Bwyd Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan fuddsoddi yn eu gweithwyr ac uwchsgilio unigolion mewn ystod eang o gyrsiau hyfforddi.

Dywedodd Elwyn Jones, Rheolwr AD a Chydymffurfiaeth “ein staff yw calon y cwmni felly mae’n bwysig ein bod yn gallu rhoi’r sgiliau i staff wneud y job. Mae Lantra wedi helpu ni gyda cheisiadau arian a hyfforddiant a phan wnaethant gysylltu i ddweud eu bod wedi ein henwebu am y wobr roedd yn fraint.”