Lesley Griffiths AM

Croesawodd Hufenfa De Arfon Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yng Nghymru ddydd Iau, 18fed Ionawr 2018.

Cafodd y Gweinidog gyfle i gyfarfod gyda staff a ffermwyr gyfarwyddwyr y gydweithfa cyn mynd ar daith i weld y safle i gyd. Cafodd gyfle i weld y buddsoddiadau gwerth £12 miliwn mae’r hufenfa wedi eu gwneud i greu adnodd prosesu a phacio caws o’r radd flaenaf.

Un o bigion yr ymweliad oedd y cyfle i flasu caws a menyn Dragon llwyddiannus yr Hufenfa, sydd wrth gwrs yn cael ei wneud i gyd gyda llaeth Cymreig gan ffermwyr y gydweithfa. Caws Dragon yw’r brand caws Cymreig mwyaf blaenllaw o ran gwerthiant yn yr archfarchnad, ac mae’r Cwmni yn parhau i ymroi i dyfu gwerth y brand ar farchnadoedd Prydain a rhyngwladol.

Ar ôl yr ymweliad dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr: “Rydym yn falch iawn bod y Gweinidog wedi cymryd amser i ymweld â’r Hufenfa a hithau gyda rhaglen mor brysur. Mae’r gydweithfa a berchnogir gan ffermwyr wedi gwneud buddsoddiadau cyfalaf sylweddol iawn yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, felly roedd yn dda gallu dangos y canlyniadau i’r Gweinidog, fwy fyth gan mai hwn oedd y buddsoddiad mawr cyntaf mewn adeilad newydd i wneud caws ym Mhrydain ers y 70au. Mi wnaeth yr ymweliad ein galluogi hefyd i drafod cam nesaf ein cynlluniau datblygu a rôl allweddol Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynorthwyo ni i gyrraedd ein hamcanion a llwyddo’n barhaus er budd ein haelodau sy’n ffermwyr llaeth Cymreig, a staff.”

Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: “Roeddwn yn hapus iawn i ymweld â Hufenfa De Arfon i glywed am eu cynlluniau cyffrous am dwf yn y dyfodol. Mae Hufenfa De Arfon yn Gwmni Cydweithredol Ffermwyr Llaeth blaenllaw, mae yng nghalon ei chymuned ac yn gyfrannwr allweddol i’r economi leol. Roedd yn dda iawn clywed sut oedd ein cefnogaeth ariannol wedi cynorthwyo’r busnes i ddatblygu ac ehangu i gyrraedd y safle y mae ynddo heddiw. Un o dargedau ein Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod yw i dyfu sector bwyd a diod Cymru i fod cyfwerth â £7 biliwn erbyn 2020 ac rwyf yn hyderus bod y sector mewn sefyllfa i gyflawni hyn nawr. Llwyddwyd i wneud hyn trwy roi busnes yn ganolbwynt yn ein cynlluniau i gyd yng Nghymru. Mae buddsoddiadau fel mae Hufenfa De Arfon wedi eu gwneud yn ffactor pwysfawr i gyflawni’r targed uchelgeisiol yma.”