Lansio cawsiau gwerthfawr newydd Dragon gyda ryseitiau blasus
Yn ddiweddar, mae Hufenfa De Arfon wedi lansio ei detholiad premiwm o gaws, Detholiad Dragon Wedi’i Grefftio â Llaw, gyda blasau newydd a phecynnau newydd yn cael eu stocio yn Tesco, Asda a Morrisons.
Wedi’i aeddfedu yng Ngheudyllau Llechi Llanfair yng ngogledd Cymru, mae detholiad Dragon Wedi’i Grefftio â Llaw wedi’i enwi ar ôl gemau a metelau gwerthfawr – Platinwm Ceudwll, sef cheddar aeddfed iawn, Rhuddem Ceudwll, sef caws Caerlŷr coch Cymreig, Emrallt Ceudwll, cheddar wedi’i gymysgu â chennin ac yn olaf Onics Ceudwll, cheddar gyda wisgi Cymreig llwyddiannus Penderyn.
Gyda’r pedwar caws yn cael eu stocio yn Tesco, wrth ddatgelu’r enwau a’r pecynnau newydd ar gyfer y detholiad, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon, Alan Wyn Jones, “Roeddem ni eisiau pwysleisio tarddiad a threftadaeth y caws gyda’r brand a’r blasau newydd wedi’u hanelu at ochr foethus y farchnad. Roeddem ni eisiau gwneud cynhyrchion blasus a chyfoethog trwy ychwanegu dyfnder blas gwirioneddol at ein caws Dragon.”
Wrth aeddfedu yn y ceudyllau caws, mae ryseitiau newydd wedi’u creu i amlygu’r nodweddion unigryw gyda’r awduron bwyd a theithio, Kacie Morgan o The Rare Welsh Bit a Llio Angharad o’r blog Dine and Disco.
Mae’r ryseitiau hydrefol blasus yn cynnwys Selsig Morgannwg Caws Emrallt o Geudwll Llechi gyda Picl Picalili Dragon a tharten bacwn a Chaws Rhuddem o Geudwll gyda dip pesto, gyda mwy o ryseitiau Nadoligaidd ar y gorwel.
Dywedodd Kacie Morgan, crëwr The Rare Welsh Bit,
“Mae selsig Morgannwg yn nes at risol neu croquette sawrus na selsig traddodiadol, gan nad ydyn nhw’n cynnwys unrhyw gig o gwbl. Credir eu bod yn boblogaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan oedd dogni cig, ond roedd y sôn cyntaf amdanynt yn y 1850au, pan oedd George Borrow yn frwd dros fwyta selsig Morgannwg i frecwast yn Wild Wales. “I roi tro syml ond blasus ar selsig traddodiadol Cymreig Morgannwg, mae fy rysáit yn defnyddio Cheddar Emrallt o Geudwll Llechi Dragon, wedi’i drwytho â chennin, i arbed y drafferth o olchi, sleisio a ffrio cennin. Mwynhewch eich selsig Morgannwg gyda Picl Picalili siarp Dragon a salad ochr crensiog, i gael byrbryd hydrefol cysurus.”
Ychwanegodd Llio Angharad, blogiwr bwyd a theithio Dine & Disco,
“Roedd yn wych gallu chwarae o gwmpas gyda’r gwahanol flasau sydd gan bob caws. Mae fy nharten caws Rhuddem o Geudwll Llechi a chig moch yn mynd yn dda iawn gyda pesto, a gwydraid o win coch o flaen y tân yr hydref hwn.”
Mae Tesco yn stocio pob un o’r pedwar caws Dragon Wedi’i Grefftio â Llaw, gyda thri yn Asda a Morrisons yn stocio’r Platinwm a’r Rhuddem. Am eich stocwyr lleol neu i brynu detholiad Dragon Wedi’i Grefftio â Llaw ar-lein ewch i https://dragonwales.co.uk/cy/ein-hystod/ neu https://dragonwales.co.uk/cy/stocwyr/
Ar gyfer yr holl ryseitiau: https://dragonwales.co.uk/cy/ryseitiau/