Penodi Cyfarwyddwyr Newydd
Yn ddiweddar, mae Hufenfa De Arfon wedi penodi dau Ffermwr Gyfarwyddwr newydd ar Fwrdd y Cyfarwyddwyr am dymor o dair blynedd.
Mae Bwrdd y Gydweithfa yn cynnwys pump o gynhyrchwyr llaeth sy’n aelodau. Maent yn cael eu hethol yn Gyfarwyddwyr gan y ffermwyr aelodau sy’n cynhyrchu llaeth. Mae pob un Cyfarwyddwr yn cael ei ethol o un o’r pedair ardal sy’n cynhyrchu llaeth yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru. Penodwyd yr aelodau Osian Williams a Malcolm Davie ar Fwrdd y Cyfarwyddwyr yng nghyfarfod blynyddol y Cwmni eleni.
Mae Osian Williams yn ffermio gyda’i deulu yn Llannefydd, Dinbych a Malcolm Davies yn ffermio gyda’i deulu yn Dinas ym Mhenryn Llyn.
Yn dilyn y penodiad dywedasant, “Mae Hufenfa De Arfon mewn safle cadarn iawn am y dyfodol oherwydd gwaith caled ac ymroddiad y staff. Mae’r buddsoddiadau mae’r gydweithfa wedi eu gwneud yn darparu llwyfan gref ar gyfer y busnes cyfredol a newydd. Mae cyfle gwych i’r gydweithfa ehangu ei busnes ymhellach a chael cytundebau cyflenwi ychwenagol i barhau ymlaen i dyfu a datblygu llyfr gwerthiant safonol.”
“Rydym yn falch iawn o gael ein hethol ac ein bod yn gallu cynrychioli’r aelodau. Mae Hufenfa De Arfon yn fusnes sy’n meddwl ymlaen ac yn un sy’n gweithio’n glos gyda’i haelodau i ddiogelu ein dyfodol ac i gynnig twf a chynaladwyedd sy’n holl bwysig i ffermwyr aelodau’r Hufenfa i gyd.”
Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr “mae’n bwysig bod ein haelodau a ffermwyr yn cael lleisio eu barn ar weithredu’r Hufenfa ac mae ein Cyfarwyddwyr yn allweddol pan mae angen gwneud penderfyniadau. Felly rydym yn falch iawn o groesawu Malcolm ac Osian ar Fwrdd y Cyfarwyddwyr. Maent yn ychwanegiad da at y Bwrdd a hwythau gyda rhaglowg masnachol iawn tuag at fusnes sydd mawr ei angen yn ein diwydiant cystadleuol.”
Yn y Cyfarfod Blynyddol fe wnaeth Hufenfa De Arfon gyhoeddi elw gorau erioed am y cyfnod hyd at Mawrth 2017; proffid gwiethredol o bron i £3 miliwn (9%) a cyflawnwyd hynny ar werthiant o £33.1 milion o gymharu â £389k (1.2%) ar werthiant o £31.7 milion yn 2016.