Uned Cynhyrchu Newydd
Mae gwaith wedi dechrau ar uned cynhyrchu newydd yn Hufenfa De Arfon. Bydd yr offer diweddaraf yn cael ei osod yn yr adeilad newydd i ddarparu uned gwneud caws hyblyg ar safle’r Hufenfa yn Chwilog ger Pwllheli. Amcangyfrifir buddsoddiad o oddeutu £6 miliwn.
Disgwylir i’r uned newydd fod yn gweithredu’n llawn erbyn Hydref 2015 ac yn ystod y pum mlynedd nesaf bydd yn galluogi’r Cwmni Ffermwyr Cydweithredol ddyblu ei gallu cynhyrchiant, gan ymchwyddo cynhyrchiant caws o’r 9,000 tunnell bresennol i 17,000 tunnell.
Bydd yr uned cynhyrchu newydd y gorau yn ei dosbarth, effeithlon a hyblyg ac yn cefnogi strategaeth twf Hufenfa De Arfon o ran cwsmeriaid sydd gennym yn barod, cwsmeriaid newydd a busnes allforio. Ni fydd y gwaith adeiladu yn effeithio ar y cynhyrchiant caws presennol gan y byddwn yn dal ati i ddefnyddio’r uned gyfredol tan fydd yr un newydd yn barod. Bydd busnesau lleol yn elwa o’r estyniad, er enghraifft, mae cwmni lleol Derwen Llyn o Bwllheli wedi derbyn y cytundeb adeiladu.
Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr “er ei bod hi’n gyfnod anodd iawn i gynhyrchwyr a phroseswyr llaeth, mae’n gyfnod cyffrous iawn i’r busnes. Bydd y buddsoddiad yn adeiladu’r ffatri gaws newydd gyntaf ym Mhrydain ers 1970 a bydd yn darparu’r cyfleusterau cynhyrchiant gorau un i gefnogi ein strategaeth am dwf a gwerth ymhellach.”
Mae’r 120 aelod sy’n ffermwyr ac yn cynhyrchu llaeth i Hufenfa De Arfon yn hapus iawn i gefnogi’r buddsoddiad. Arsylwodd John Gwynant Hughes, Fferm Ynysgain Fawr Criccieth “Rydym yn falch iawn o fod yn aelodau ac yn berchnogion ar Hufenfa De Arfon ac mae’n ysbrydoliaeth gweld y busnes yn edrych ymlaen ac yn buddsoddi yn ein dyfodol. Mae’n rhoi hyder i ni mewn cyfnod sy’n arbennig o anodd i’r diwydiant”.