Diwrnod Agored

Cynhaliwyd diwrnod agored i ddathlu Pen-blwydd Hufenfa De Arfon yn 80 dydd Sadwrn, 7fed Gorffennaf a bu’n llwyddiant ysgubol gyda channoedd yn cerdded drwy’r giât.

Cafodd aelodau o’r cyhoedd weld y broses gwneud caws i gyd a dysgu sut mae llaeth yn cael ei drosi i gaws ac yna ei aeddfedu a’i bacio i’w ddosbarthu i gwsmeriaid.

Cawsant fynd ar deithiau tywys o gylch y ffatri gan ymweld ag un o’r storfeydd caws tymor hir lle mae 5,000 tunnell o gaws yn cael ei aeddfedu ar dymheredd penodol, wyth gradd canradd, cyn cael ei safoni a’i dorri i daplpiau.

Pigion eraill y diwrnod oedd siop ‘pop-up’ yn gwerthu cynhyrchion pen-blwydd cyfyngedig Cheddar Cymreig o’r Ceudwll Llechi a selsig Oinc Oink efo caws, mochyn wedi rhostio, arddangosfeydd coginio gyda chawsiau Dragon a chynnyrch lleol, tent lluniaeth gan gefnogaeth Clwb Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Llangybi, congl plant, profiad godro buwch, peintio wynebau, ardal picnic, tombola, a ras hwyaid gyda’r enillydd yn derbyn tocyn teulu i Lechwedd lle’r aeddfedir y Cheddar o’r Ceudwll Llechi.

Mynychodd Carys Davies y diwrnod agored gyda’i meibion Iori Dafydd Davies, 10 oed a Ceiri Tudor Davies, 8 oed. Mae ei gwr Malcolm Davies yn un o aelodau’r gydweithfa sy’n cynhyrchu llaeth ar fferm Nyffryn yn Dinas ger Pwllheli.

Dywedodd Carys: “Mae’r diwrnod agored yn ffordd dda iawn i’r gymuned ymuno yn y dathliadau ac i fod yn rhan o ben-blwydd pwysig y Cwmni. Mae’r hogiau wedi cael amser gwerth chweil ac mae wedi bod yn hwyl ac addysgiadol, ac wrth gwrs roeddem digon ffodus i flasu cawsiau gorau Cymru.”