Balchder Jordan
Un o’r bobl fwyaf balch yn y diwrnod agored i nodi pen-blwydd Hufenfa De Arfon yn 80 oedd Jordan Roberts.
Mae
Jordan newydd ddechrau gweithio yma ac maen or-ŵyr i’r diweddar John
Owen Roberts a sefydlodd y cwmni llaeth cydweithredol yn 1938.
Derbyniodd J O Roberts fedal MBE am ei gyfraniad arbennig i ddiwydiant llaeth Cymru. Bellach mae’r fedal yma wedi cael ei rhoi i Hufenfa De Arfon gan daid Jordan, William Roberts i’w chadw i’w disgynyddion. Cyflwynwyd y fedal gan Jordan yn y Diwrnod Agored.
Mae Jordan yn gweithio yn yr adran prosesu caws a dywedodd: “rwy’n falch iawn wrth feddwl bod rhywbeth a ddechreuodd er lles cymuned ffermio Cymru gyfan yn parhau i ffynnu eddiw.”