Lleihau Ôl Troed Carbon

Mae Hufenfa De Arfon wedi buddsoddi £600,000 mewn tanceri newydd

Mae Hufenfa De Arfon wedi buddsoddi £600,000 mewn 4 tancer newydd sbon a modern ac sy'n garedicach i’r amgylchedd. Mae tanceri DAF newydd wedi disodli modelau hynach sydd yn y fflyd o 13 tancer sydd ar y lôn saith diwrnod yr wythnos trwy’r flwyddyn. Mae’r tanceri newydd yn cynnwys tair DAF CF 450 8x2 ac uned tractor a threlar CF 480 6x2. Mae eu gollyngiadau carbon yn llawer llai sy’n helpu HDA i ostwng ei ôl troed carbon. Fe wnaethant gyrraedd mewn pryd ar gyfer y gwanwyn pan mae cynhyrchiant llaeth ar ei uchaf.

Mae’r lorïau wyth olwyn 32-tunnell efo tanciau gan Sayers a threlars llwytho gan danceri Crossland, a gall pob un gario mwy na 19,000 litr o laeth pob dydd oddi ar ffermydd HDA, 134 ohonynt ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru. Mae’r dalgylch casglu i gyd efo'i gilydd ar gyfartaledd yn 60,000 milltir y flwyddyn, mil o filltiroedd pob wythnos.

Mae HDA wedi cydweithio gyda DAF o’r blaen ac wedi bod yn hapus iawn gyda’r gwasanaeth ac mae’r tanceri wedi bod yn ddibynadwy, cryf a chadarn. Dywedodd Dylan Owen, Rheolwr Cludiant “Mae dyluniad tanceri DAF wedi trawsnewid yn y blynyddoedd diweddar. Un o brif atyniad y model DAF CF 450 diweddaraf oedd rhwyddineb symud mewn llefydd cyfyng. Mae hynny’n bwysig iawn i’n gwaith ni pan feddyliwch am y math o ffyrdd mae ein gyrwyr yn teithio arnynt. Rydych yn sôn am lonydd gwledig cul, tir anwastad a chlosau buarth mwdlyd. Rydym angen cerbydau sy’n gallu ymdopi gyda’r amodau yma ac mae’r DAFs yn darparu hynny i ni.”

Bydd y DAFs newydd yn sicrhau llawer llai o ollyngiadau carbon, saith y cant yn llai’r na’r modelau hen, hynny oherwydd bod yr injan y fwyaf diweddar ac yn cydymffurfio gyda safonau caeth ac uchel canllawiau Euro 6 a gefnogir gan y Llywodraeth. Maent hefyd efo system Adblue sy’n golygu bod gollyngiadau yn cael eu chwistrellu gyda hylif sy’n trawsnewid y nitrogen ocsid i sylwedd diniwed.

Mae’r tanceri, sy’n disgleirio fel swllt, yn cael eu cydnabod am eu moethusrwydd i’r gyrwyr yn y caban ac fe’u prynwyd trwy ddeliwr DAF MOTUS Commercials yn Wrecsam sydd yn darparu gwasanaeth cefnogol diguro.

Dywedodd Dylan, “Mae gennym dîm abl iawn o fecanics yma ar safle i gynnal a chadw’r tanceri, ond os oes problemau na ragwelwyd yn codi mae’n braf gwybod y gallwn droi at yr hogia yn MOTUS neu Holyhead Trucks i helpu ni i’w datrys, boed o’n beirianyddol neu arall.”

Mae’r buddsoddiad yma’n parhau ymlaen gyda'r startegaeth ehangu a gwelliannau HDA, Cydweithfa ffermwyr llaeth hynaf Cymru, dros y ddegawd olaf.