Llwyddiant Ysgubol i Gawsiau Dragon

Mae Hufenfa De Arfon yn dathlu ei thymor mwyaf llwyddiannus mewn hanes ar ôl i’w cawsiau Dragon gael llwyddiant ysgubol gan ennill 30 gwobr mewn dwy sioe bwyd a ffermio arwyddocaol.

Daeth Hufenfa De Arfon gartref gyda 10 gwobr o sioe gwobrau caws a chynnyrch llaeth rhyngwladol Nantwich, sioe gaws mwyaf y byd gyda chawsiau o 29 o wledydd gwahanol yn cystadlu. I enwi rhai, enillodd cheddars hanner braster a llai o fraster ein brand Dragon, yn eu trefn, wobrau aur ac arian. Enillodd ein cheddar Cymreig coch wobrau aur ac arian hefyd.

Daeth hyn wrth gwtyn llwyddiant mawr i HDA yn Sioe Frenhinol Cymru lle’r enillodd y gydweithfa ugain o wobrau. Dyfarnwyd y caws brand Dragon llai braster y Pencampwr Caws gan ei wneud y gorau yn y sioe. Yn ogystal, enillodd y wobr am y caws Cymreig gorau ac felly’n ei wneud y caws gorau oedd wedi cael ei wneud yng Nghymru.

Daw y llwyddiant yma yr un pryd a chyffro ail-frandio ein cawsiau Dragon poblogaidd. Mae ein cawsiau brand Dragon yn amrywio o gaws mwyn i gaws aeddfed clasurol ac mae pob dafn o’r llaeth a ddefnyddir i wneud y cawsiau yn Gymreig ac yn dod o ffermwyr ein haelodau Cymreig. Gellir dilyn trywydd pob tamed o gaws yn ôl i’r fuwch.

“Mae hon wedi bod yn dymor sioeau anhygoel i bawb yn Hufenfa De Arfon,” dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr HDA Alan Wyn Jones. ” Mae dod adra efo 10 gwobr o Nantwich a 20 o Sioe Frenhinol Cymr,u yn cynnwys y pencampwr caws a’r caws Cymreig gorau yn gamp a hanner ac rydym yn falch iawn ohonynt. Mae derbyn cydnabyddiaeth mewn dwy o sioeau pwysfawr y diwydiant yn acolâd mawr ac yn dyst i safon y llaeth a gynhyrchir gan ein ffermwyr aelodau ar draws gogledd a chanolbarth Cymru. Mae hefyd yn rhoi sêl bendith a chydnabyddiaeth i ein gwneuthurwyr caws sy’n gweithio’n galed yn barhaus i fireinio a gwella ein cynhyrchion. Rydym wedi rhoi llawer iawn o ymdrech i wella blas ac ansawdd ein cheddar llai braster ac rydym wrth ein boddau bod y beirniaid yn cytuno bod gennym gaws arbennig yn cael ei wneud yma yng Nghymru a dwi’n gobeithio y bydd pawb yn mynd ati i’w flasu.”