Ymweliad Brenhinol
Bydd Tywysog Cymru a Duges Cernyw yn agor uned cynhyrchu caws newydd Hufenfa De Arfon ddydd Mawrth, 5ed Gorffennaf.
Bydd Eu Huchelderau Brenhinol yn mynd o gylch safle’r hufenfa, cyfarfod â staff ac aelodau’r gydweithfa llaeth a berchnogir gan 127 o ffermwyr sy’n ffermio yng Ngogledd Cymru a Chanolbarth Cymru. Mae’r ymweliad â safle Hufenfa De Arfon, Chwilog ger Pwllheli yn rhan o ddeuddegfed ymweliad haf Tywysog Cymru a Duges Cernyw i Gymru.
Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon “Mae’n anrhydedd mawr fod Tywysog Cymru a Duges Cernyw yn agor ein huned caws newydd yn swyddogol, sydd yn fuddsoddiad cyntaf sylweddol mewn cynhyrchiant llaeth ym Mhrydain ers 40 mlynedd.”
“Rydym yn edrych ymlaen at ddangos ein cyfleuster newydd i Eu Huchelderau Brenhinol ac i roi mewnwelediad i fusnes y gydweithfa, er enghraifft, sut mae ein ffermwyr ac aelodau yn cyflenwi llaeth Cymreig o safon uchel sy’n cael ei brosesu i gaws a menyn o ansawdd, sydd wedi ennill nifer o wobrau ac sy’n cael ei werthu i archfarchnadoedd Prydain ac i farchnadoedd rhyngwladol.”.
Mae Tywysog Cymru gydag ymrwymiad hirsefydlog i gefnogi ac i sicrhau dyfodol cynaliadwy i amaeth Prydain. Yn 2010 sefydlodd EUB Gronfa Cefn Gwlad Y Tywysog, gyda’r nod i greu dyfodol mwy llewyrchus i gefn gwlad Prydain.