Lansiad Sioe Frenhinol Cymru
Mae Hufenfa De Arfon wedi datblygu Cheddar Dragon Newydd ar y cyd gydag Ogofau Llechi Llechwedd. Lansiwyd ef yn swyddogol yn Sioe Frenhinol Cymru 21-24 Gorffennaf 2014. Mae’r Hufenfa wedi mabwysiadu dull aeddfedu sy’n draddodiadol iawn ac yn cludo caws o’u safle yn Chwilog i’r Ogofau Llechi ym Mlaenau Ffestiniog. Gadewir ef yno, 500 troedfedd o dan ddaear i aeddfedu.
Mae’r broses aeddfedu yma yn yr ogofau, a gredir yw’r rhai dyfnaf sydd, yn ychwanegu nodweddion unigryw i’r caws; ansawdd mwy cadarn a dyfnder blas. Roedd ymwelwyr y Sioe yn cael cyfle i flasu’r caws i farnu eu hunain gan fod yr Hufenfa yn cynnal sesiynau samplo driwyr gydol y dydd yn y Neuadd Fwyd. Roedd yr adborth yn bositif iawn.
Daw’r caws mewn pecyn 200g ym mrand Dragon Hufenfa De Arfon ac roedd ar gael i’w brynu yn y sioe, bydd hefyd ar gael yn Sioe Môn 12-13 Awst a Sioe Dinbych a Fflint 21 Awst. Mae’r caws hefyd ar gael yn Ogofau Llechwedd.
“Rydym wedi cydweithio gydag Ogofau Llechwedd i ddatblygu’r caws newydd yma; ei wneud yma yn Chwilog ac yna ei aeddfedu yn ogofau dwfn Blaenau Ffestiniog. Mae’r broses i gyd yn tynnu sylw at ein Treftadaeth Gymreig” eglurodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr. “Rhoddodd Sioe Frenhinol Cymru lwyfan i ni ddangos y caws newydd. Rydym yn hapus iawn gyda safon bwyta’r caws, ond yn fwy na hynny gyda’r adborth gan gwsmeriaid yn y sioe”.