Cytundeb Sainsbury’s yn Creu Swyddi
Cyhoeddodd Hufenfa De Arfon ei bod wedi ennill cytundeb i gyflenwi caws brand ‘Basics’ Sainsbury’s. Mae’r cytundeb yn cynnwys 13 o gynhyrchion gwahanol ar gyfer brand Basics Sainsbury’s a fydd yn cael ei lansio yn y storfa ymhellach ymlaen eleni.
Dywedodd Alan Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr “Rydym yn falch iawn o dderbyn cytundeb cyflenwi caws Basics i Sainsbury’s. Byddwn yn cyflenwi cawsiau ar bob lefel yn cynnwys eu cynhyrchion haen uchaf yn storfeydd Sainsbury’s yn genedlaethol.”
“Bydd y ffatri gwneud caws newydd yn dechrau’n gweithredu’n llawn yn fuan ac oherwydd y cytundeb yma bydd yn cynhyrchu i’w hanterth o’r dechrau. Byddwn hefyd yn buddsoddi’n sylweddol yn ein gweithrediadau pacio caws, a phan fydd y cytundeb yn dechrau bydd yn creu oddeutu 15 swydd newydd sy’n newyddion gwych i’r economi leol.”
“Mae diogelu cytundeb fel hwn yn rhoi hyder yn nyfodol y busnes i’n cyfranddalwyr”.
“Mae derbyn y cytundeb yma yn destament o’n perthynas gyda Sainsbury’s a’r daith gyda’n gilydd dros y blynyddoedd diweddar. Diolchwn iddynt am eu cefnogaeth barhaus ac edrychwn ymlaen at gydweithio efo nhw ar y prosiect yma, a rhai eraill wrth i ni ddechrau ar gyfnod cyffrous iawn i’r busnes”.
Dywedodd James Connaughton, Prynwr Caws: “Ar ôl gweithio gyda Hufenfa De Arfon ar brosiectau diweddar, mae safon y caws a chysondeb cyson y cyflenwad wedi ein boddi yn fawr. Bydd hyblygrwydd a’r gallu cynhyrchiant, ynghyd â gwybodaeth a phroffesiynoldeb y tîm yn ein caniatáu i addasu a chreu cynhyrchion newydd yn y dyfodol ac rydym yn falch o weithio gyda busnes lle mae tarddiad yn hollbwysig”.