Cydlynydd Gwerthiant a Marchnata
Mae Hufenfa De Arfon wedi penodi Megi Williams fel Cydlynydd Gwerthiant a Marchnata newydd. Bydd y swydd newydd yma yn darparu cefnogaeth gwerthiant i dîm gwerthu’r Hufenfa ac yn cynorthwyo gyda gweithgareddau marchnata pwysig.
Mae Megi Jones, merch leol newydd raddio mewn Busnes a Rheolaeth o Brifysgol Aberystwyth. Fel rhan o’i thraethawd hir astudiodd Megi diwydiant bwyd a diod Cymru. Edrychodd ar sut mae cwmnïau bwyd a diod llwyddiannus yn cystadlu ar y marchnadoedd mawr a sut oeddent yn cynnal y llwyddiant hwnnw.
Dywedodd Megi Williams: “Mi ddois ar draws Hufenfa De Arfon wrth wneud fy nhraethawd hir. Er mod i’n byw yn lleol i’r Hufenfa doeddwn i ddim yn gwybod llawer amdani. Dois i ddeall mwy am fusnesau bwyd a diod Cymreig a diwydiant y sector yn ehangach yn ystod fy astudiaeth. Tan hynny, doeddwn i ddim wedi ystyried gyrfa mewn bwyd, ond roedd y traethawd yn archwilio amrywiaeth a blaengaredd y diwydiant ac mi wnaeth hynny newid fy agwedd. Mae cymaint o arloesedd o ran cynnyrch a hyrwyddo ac mi oeddwn i eisiau bod yn rhan ohono. Siaradais gyda llawer o gwmnïau bwyd a diod Cymreig, ond yr Hufenfa wnaeth yr argraff fwyaf fel cwmni a meddyliais y buaswn yn hoffi gweithio yno. Holais am swydd ac roeddwn yn falch o weld swydd Cydlynydd Gwerthiant a Marchnata yn cael ei hysbysebu, ac wrth fy modd pan gefais gynnig y swydd. Mae’n rhaid mai ffawd oedd astudio Hufenfa De Arfon ar gyfer fy nhraethawd hir! Hyd yma dwi wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau ac wedi teithio drwy Gymru yn mynychu digwyddiadau blasu mewn archfarchnadoedd a sioeau masnach. Mae bob amser yn braf cael sgwrs efo ffans y caws Dragon.”
Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr “Mae gan yr Hufenfa gynlluniau twf uchelgeisiol felly roedd angen atgyfnerthu ein tîm er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni hynny. Gwelwyd bod angen cefnogaeth i gryfhau’r ochr gwerthu a marchnata ac i ddenu busnes newydd. Bydd Megi yn aelod allweddol o’r tîm.”