Salon du Fromage
Cawsiau crefft llaw Dragon yn sioe fawreddog Salon du Fromage
Fe wnaeth Hufenfa De Arfon arddangos ei chawsiau crefft llaw Dragon arbenigol gyda balchder yn sioe fawreddog Salon du Fromage ym Mharis 23-26 Chwefror. Roedd 300 yn arddangos yn y sioe a deallir bod hyn wedi torri pob record flaenorol. Roedd HDA yn rhan o arddangosfa clwstwr Bwyd a Diod Cymru ac yn hwylus iawn i bawb roedd cyfieithydd wrth law i arbed unrhyw anawsterau iaith petaent yn codi. Ymwelodd dros 8,500 o gylch y byd dros y pedwar diwrnod.
Roedd yn gyffrous cael y cyfle i lwyfannu a hybu ein Cheddar Dragon a aeddfedir mewn ceudyllau llechi yn y Salon du Fromages gan fod y cynnyrch yma wrth gwrs yn dilyn ôl troed dulliau hynafol a thraddodiadol cynhyrchu caws Ffrengig. Mae’r Ffrancwyr wedi bod yn aeddfedu caws mewn ogofau tanddaearol ers canrifoedd ac ysbrydolodd hynny i HDA fynd a chaws i geudyllau llechi Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog. Yno caiff ei storio 500 troedfedd o dan ddaear i aeddfedu ac er mwyn meithrin blas dwysach. Mae’r dechneg yma’n llwyddiannus oherwydd bod y tymheredd yn unigryw a chyson, a’r lleithder a gwagedd yr aer yn yr ogofau yn cyfoethogi proffil y caws, ansawdd a blas.
Mae cawsiau'r amrywiaeth crefft llaw Dragon i gyd yn cael eu gwneud mewn partneriaeth gyda busnesau eraill yng Ngogledd Cymru. Mae’n cynnwys Cheddar wedi Cochi a ddatblygwyd ar y cyd gyda Chwmni mygu enwog brand Halen Môn yn Ynys Môn ac mae’r cheddar Halen Môn eto wedi ei ddatblygu gyda’r un Cwmni efo halen môr o’r Fenai. Cwblheir yr amrywiaeth gyda Cheddar Wisgi Penderyn a wneir wrth fwydo’r cheddar a aeddfedir yn y ceudyllau gyda wisgi Madeira gan Gwmni adnabyddus Penderyn.
Roedd yn bleser rhannu'r hanes tu ôl i’r cawsiau a’r ffaith ei fod yn cael ei wneud gyda llaeth o’n ffermydd llaeth Cymreig, a chael y cyfle i godi ymwybyddiaeth am ein cynhyrchion Cymreig penigamp i arbenigwyr y diwydiant caws ar draws y byd. Cafodd Emma Knight, Rheolwraig Marchnata hefyd gyfarfod da gyda Llysgennad Prydain yn Ffrainc, Edward Llewellyn.
Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr: “rydym wedi gweithio’n galed i ddatblygu’r amrywiaeth crefft llaw Dragon. Rydym wedi cyfuno rhai o gynhyrchion gorau Cymru sydd â chefndir a hanes lleol i greu amrywiaeth o gawsiau premiwm y gallwn ni for yn wirioneddol falch ohonynt. Mae’r canlyniad yn destament o safon cynnyrch ein ffermwyr ynghyd â sgiliau ein gwneuthurwyr caws.”
Mae ein cawsiau crefft llaw Dragon ar gael yn storfeydd Tesco yng Nghymru ond mae cynlluniau i ehangu cwsmeriaeth ein cawsiau i gyd yn y dyfodol.