Dileu Myths GHG ar Flaen COP26
Mae Hufenfa De Arfon (HDA) yn cydweithio gyda’r Royal Association of British Dairy Farmers (RABDF) a rhanddeiliad eraill yn y diwydiant er mwyn cynorthwyo i dynnu sylw at y ffeithiau cywir cysylltiedig ag allyriadau nwyon tŷ gwydr yn y sector ar flaen cynhadledd Newid Hinsawdd UN (COP26) yng Nglasgow ddiwedd Hydref.
Y nod yw helpu i roi gwybod i bawb am wir lefelau cyfraniadau nwyon tŷ gwydr o’r diwydiant llaeth ac i ddileu nifer o’r myths presennol. Felly, mae’r sector yn gofyn i unigolion, rhanddeiliad allweddol y diwydiant, busnesau a sefydliadau i hyrwyddo pum ffactor allweddol yn fewnol ac i’r cyhoedd yn ehangach cyn, yn ystod ac ar ôl COP26.
Rhagwelir y bydd amaeth y Deyrnas Unedig o dan y sbotlamp yn COP26, a dyna pam ei bod yn bwysig i ni weiddi am y gwaith da mae’r diwydiant llaeth yn ei wneud i leihau allyriadau o lefel sy’n eithaf isel yn barod.
Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon: "Pe bai pawb ond yn rhannu un ffaith ar y cyfryngau cymdeithasol, yn eu cylchlythyr Cwmni, gyda ffrind neu mewn sgwrs, er enghraifft, yna mae hynny’n un person arall sydd yn gwybod mwy am allyriadau o’r diwydiant llaeth.”
Mae’r ffeithiau sy’n cael eu hamlygu yn cynnwys:
1. Mae ffermydd llaeth DU yn gyfrifol am lai na 3% o gyfanswm allyriadau'r DU.
2. 46% - Mae bron i hanner yr allyriadau o fuwch llaeth yn dod wrth dreulio bwyd - proses hollol naturiol o gnoi cil.
3. Mae’n cymryd 8 litr o ddŵr tap i gynhyrchu un litr o laeth neu 158 litr o ddŵr tap i gynhyrchu un litr o laeth almon.
4. Mae ôl troed carbon un litr o laeth Prydeinig yn oddeutu 1.25kg CO2e o gymharu â chyfartaledd byd eang o 2.9kg CO2e y litr.
5. Mae gwartheg llaeth y DU gyda’r mwyaf cyfeillgar i’r hinsawdd yn y byd. Mae 278 miliwn o wartheg llaeth yn fyd eang. Pe baent yr un mor effeithlon â gwartheg llaeth y DU, DIM OND ODDEUTU 76 MILIWN ohonynt fyddai angen i gynhyrchu'r un faint o laeth.
Mae RABDF wedi paratoi deunydd cyfryngau cymdeithasol drafft, cylchlythyrau, lluniau a phosteri y gallwch eu copïo am ddim oddi ar eu gwefan www.rabdf.co.uk/emissions <http://www.rabdf.co.uk/emissions>
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr RABDF: "Rydym eisiau ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i bobl rannu gwaith da'r diwydiant llaeth ac atgyfnerthu'r ffaith bod cynhyrchion llaeth yr un mor dda i’r blaned ac yr yw i iechyd dynol.”