Hufenfa De Arfon yn penodi eu haelod bwrdd benywaidd cyntaf

Mae cwmni llaeth cydweithredol, Hufenfa De Arfon wedi cyhoeddi penodiad aelod newydd ar eu Bwrdd.

Malan Hughes, a gafodd ei geni a’i magu ar fferm laeth 500 erw’r teulu ger Pwllheli, fydd y ferch gyntaf i ymuno â’r Bwrdd ers ffurfio Hufenfa De Arfon yn 1938.

Mae Malan yn aelod allweddol o dîm Milfeddygol Milfeddygon Deufor. Rhoddodd ei chefndir gariad iddi at anifeiliaid a chefn gwlad o oedran cynnar iawn ac roedd yn benderfynol o ddod yn filfeddyg hyd yn oed cyn iddi adael yr ysgol gynradd. Yn 2016, daeth y freuddwyd hirfaith honno’n wir pan raddiodd Malan gyda Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Ymarfer Milfeddygol Uwch o Brifysgol Lerpwl. Mae'n parhau i astudio'n rhan-amser i ennill tystysgrif ôl-radd mewn milfeddygaeth anifeiliaid bach.

Mae Malan yn dilyn ôl traed ei thaid a’i thad a fu hefyd yn gwasanaethu fel aelodau’r Bwrdd.

A hithau ar fin ymgartrefu gwta hanner milltir o’r hufenfa, mae Malan yn edrych ymlaen at ei rôl ar y Bwrdd.

Mae’r hufenfa wedi bod yn bwysig iawn i ni fel teulu ac rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle hwn. Edrychaf ymlaen at gyfrannu at y llwyddiant a’r twf parhaus tra’n sicrhau bod elfen gydweithredol yr hufenfa’n cael ei chydnabod a’i chryfhau. Rwy’n awyddus i gwrdd â’r cynhyrchwyr a’r staff nad ydw i’n eu hadnabod eto a gobeithio y bydd yr holl aelodau’n hapus i fy nghael i’w cynrychioli.

Bydd Malan Hughes yn cymryd lle Gareth Jenkins sy’n ymddeol o’r Bwrdd ar ôl 28 mlynedd o wasanaeth. Penodwyd Gareth Jenkins o Fferm Tanllyn, Pencaenewydd, ‘nôl ym mis Gorffennaf 1995 ac yn ddiweddarach fe’i penodwyd yn Is-Gadeirydd am gyfnod.

Wrth wneud sylw yn dilyn y penodiad, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon, Alan Wyn Jones,

Hoffwn groesawu Malan i’r Bwrdd, yn enwedig o ystyried mai hi yw’r ferch gyntaf i fod yn y rôl hon. Bydd yn gaffaeliad mawr gyda’i gwybodaeth a’i harbenigedd a fydd yn bwysig i waith Hufenfa De Arfon.